Mae’r Tîm Dysgu a Datblygu'r Gweithlu wedi bod yn gweithio gyda Tim Dallinger o Social Care Consultants i gyflwyno ffordd newydd o gynnig hyfforddiant i ddysgwyr – yr hyn y gallwn ni ei gynnig yw Cyflwyniad wedi’i Recordio gyda sylwebaeth dan arweiniad gan Tim, ar destun Gofal Personol.
Gall y dysgwr wylio’r sesiwn 45 munud o hyd, pan fydd yn gyfleus iddyn nhw.
Cynghorir chi i wisgo clustffonau er mwyn cyflawni profiad gwylio gwell.
Mae’r sesiwn yn trafod y canlynol:
- Diffiniadau Gofal Personol
- Dyletswyddau Cyflogwyr a Gweithwyr
- Argymhellion gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
- Rheoli Ymataliaeth
- Iechyd y Geg
- Cael Bath a Chawod
- Golchi Gwallt
- Cefnogi pobl i wisgo