Derbyniodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 Gydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020 a bydd yn dod i rym ddydd Llun 21 Mawrth 2022.
Pwrpas y ddeddfwriaeth yw helpu i ddiogelu hawliau plant; mae'n adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. O dan y gyfraith, ni fydd rhieni ac oedolion eraill sy'n gweithredu fel rhiant bellach yn gallu cosbi plant yng Nghymru yn gorfforol. Y Gweinidog sy'n gyfrifol am oruchwylio hynt y ddeddfwriaeth yw Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru.