Manylion y cwrs
Caiff y sesiynau hyn eu darparu wyneb i wyneb yng Nghoed Pella, mae sesiynau ar-lein ar gael o hyd ar ddyddiadau eraill, os byddai’n well gennych fynychu sesiwn ar-lein, mae gwybodaeth ar gael ar y ddolen hon:
Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Ddiogelu i Gymru Gyfan 3.5 Awr - ZOOM
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
19 Hydref 2023 |
9:30am - 1pm |
Coed Pella, Conway Road, Colwyn Bay, LL29 7AZ |
Tîm Datblygu Gweithlu a Dysgu Conwy |
Gwasanaethau Targed - Pob gwasanaeth
Grŵp Targed - Pob gwasanaeth |
12 Rhagfyr 2023 |
9:30am - 1pm |
Coed Pella, Conway Road, Colwyn Bay, LL29 7AZ |
Tîm Datblygu Gweithlu a Dysgu Conwy |
Gwasanaethau Targed – Pob gwasanaeth
Grŵp Targed – Pob gwasanaeth |
27 Chwefror 2024 |
9:30am - 1pm |
Coed Pella, Conway Road, Colwyn Bay, LL29 7AZ |
Tîm Datblygu Gweithlu a Dysgu Conwy |
Gwasanaethau Targed – Pob gwasanaeth
Grŵp Targed – Pob gwasanaeth |
Nodau ac amcanion y cwrs
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr:
- wybod beth yw eu rôl eu hunain mewn perthynas ag amddiffyn oedolion, plant a phobl ifanc rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- deall sut mae unigolion yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- gwybod sut i adnabod gwahanol fathau o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- gwybod y newidiadau diweddar i ddiogelu o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Ceisiwch gyrraedd 15 munud cyn amser dechrau’r sesiwn.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.