Dyddiadau
- 2026: 05 Mawrth, 22 Medi
 
- 2027: 19 Ionawr
 
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 16:30pm
 
- Lleoliad: Ystafell Hyfforddi, Coed Pella, Bae Colwyn
 
- Hyfforddwr: Lyndsey Reis Uned Ddiogelu Conwy
 
- Gwasanaethau targed: Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Y Tîm Anabledd, Cefnogaeth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal
 
- Grŵp targed: Pob Gweithiwr Cymdeithasol sy'n gweithio mewn Gwasanaethau Plant, Ymarferwyr Gofal Cymdeithasol, Rheolwyr a Gweithwyr Preswyl yn gweithio mewn gwasanaethau plant
 
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r hyfforddiant hwn yn cyflwyno’r Model Amddiffyn Plant yn Effeithiol, fframwaith strwythuredig a ddyluniwyd i wella ymarfer diogelu.
Mae Amddiffyn Plant yn Effeithiol wedi’i lunio o amgylch pedair egwyddor allweddol:
- Sgyrsiau
 
- Trothwyon
 
- Newid
 
- Mesur
 
Bydd y cwrs yn cefnogi ymarferwyr i ymgysylltu’n ystyrlon â theuluoedd, defnyddio trothwyon cyson ar gyfer ymyrraeth, dynodi newidiadau angenrheidiol a gwerthuso effaith eu gwaith.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gadael yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus, hyrwyddo diogelu ar y cyd a sicrhau bod ymyriadau’n arwain at welliannau mesuradwy i ddiogelwch a lles plant.
Gellir mynychu’r sesiynau hyn fel rhan o hyfforddiant gorfodol i ymarferwyr penodol neu fel cwrs gloywi.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.