Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020
Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau.
Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Nofio am Ddim y Lluoedd Arfog
Summary (optional)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig nofio am ddim i aelodau a chyn aelodau’r lluoedd arfog yn ystod sesiynau nofio cyhoeddus.
start content
Telerau ac Amodau
- Y Lluoedd Arfog - aelodau sy'n gwasanaethu a chyn aelodau - unrhyw un sydd yn neu wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi ar unrhyw un adeg (gan gynnwys Milwyr ar Wasanaeth Milwrol, Rheolaidd ac Wrth Gefn).
- Rhaid i holl gyn-filwyr y lluoedd arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd gofrestru i gael CERDYN GOSTYNGIADAU AMDDIFFYN (www.defencediscountservice.co.uk) i fod yn gymwys i gael nofio am ddim. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cerdyn, ewch draw i’ch pwll nofio lleol, talwch y ffi fechan ac fe gewch eich cerdyn FFIT nofio am ddim i’r lluoedd arfog.
- Caiff y cynllun hwn ei ddarparu fel estyniad i’r Fenter Nofio am Ddim, ac felly i fod yn gymwys mae’n rhaid i aelodau o’r lluoedd arfog a chyn aelodau breswylio yng Nghymru ar hyn o bryd.
- Mae angen i bob aelod a chyn aelod ddarparu prawf o gyfeiriad, llenwi ffurflen gais cerdyn Ffit a thalu ffi weinyddu o £3.15.
- Mae’n rhaid dangos y cerdyn Ffit bob tro maent yn dymuno nofio.
- Mae gan aelodau a chyn aelodau o’r lluoedd arfog yr hawl i nofio am ddim yn ystod unrhyw amser nofio i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn mewn unrhyw bwll nofio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
- Codir tâl o £2.00 am bob cerdyn Ffit newydd.
- Mae gan reolwyr yr hawl i roi’r gorau i’r cynnig hwn ar unrhyw adeg.
- Os ydych dros 60 oed yna nid ydych yn gymwys i gael Cerdyn y Lluoedd Arfog.
Yn yr adran hon
Drag side panels here (optional)
end content