Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff 17/01/23
Oherwydd yr eira ar y ffyrdd, mae ein criwiau ailgylchu a gwastraff yn ei chael hi’n anodd cyrraedd casgliadau heddiw (Dydd Mawrth 17/01/23).
Os mai dydd Mawrth, 17 Ionawr oedd eich diwrnod bin du, rhowch eich biniau du allan ddydd Sadwrn i’w casglu.
Byddwn yn casglu’r gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod arferol yr wythnos nesaf. Bydd casgliadau clytiau ac anymataliad yn dychwelyd yr wythnos nesaf – gallwch roi unrhyw wastraff ychwanegol mewn bagiau bin.
Wedi ei bostio ar 19/01/2023