Trafodaethau cyllideb 2023/24
Bydd y Cynghorwyr yn trafod y setliad dros dro yn fanwl yr wythnos nesaf pan fyddant yn cyfarfod i drafod y gyllideb ddangosol ar gyfer 2023/24.
Gan siarad cyn cyfarfod yr wythnos nesaf, dywedodd Mike Priestley, Aelod Cabinet Cyllid Conwy: “Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cyllid ar gyfer llywodraeth leol ar 14 Rhagfyr, mae ein Tîm Cyllid wedi bod yn gweithio ar y ffigyrau dros dro i lunio adroddiad manwl i’w drafod gan y Cynghorwyr.
“Fel y mae ar hyn o bryd, bydd Conwy yn derbyn cynnydd o 7.3% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Er mawr siom, mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru o 7.9%.
“Er bod unrhyw gynnydd yn cael ei groesawu, nid yw’n ddigonol ar gyfer diwallu’r diffygion cyllid mae’r Cyngor yn eu hwynebu o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog cenedlaethol, chwyddiant prisiau, cynnydd ym mhrisiau ynni a thanwydd, a phwysau ar wasanaethau – yr ydym ar hyn o bryd yn edrych ar ddiffyg o fwy na £21.5 miliwn o ran adnoddau.
“Mae gwaith i’w wneud eto a mwy o benderfyniadau anodd i’w gwneud er mwyn gallu cyflwyno cyllideb gytbwys i’r Cyngor ym mis Mawrth, ond hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion a chynghorwyr sydd wedi cyfrannu i’r gwaith hwn hyd yma.
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r setliad terfynol ar gyfer Conwy ddechrau mis Mawrth.
Bydd y Cyngor yn cyfarfod ar 2 Mawrth i gadarnhau a chytuno ar y gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer 2023/24.
Cyfarfodydd:
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau
Gellir darllen yr adroddiad llawn a gwylio’r cyfarfod yma: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau ddydd Llun, 23 Ionawr 2023, 10.00 am
Cabinet
Gwyliwch y cyfarfod: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen ar gyfer y Cabinet ddydd Mawrth, 24 Ionawr 2023, 2.00 pm
Wedi ei bostio ar 20/01/2023