Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion ACCESS ALL EIRIAS 2023

ACCESS ALL EIRIAS 2023


Summary (optional)
start content

ACCESS ALL EIRIAS 2023

Mae’r band hip-hop pop N-Dubz wedi cyhoeddi y byddant y prif artistiaid yn ACCESS ALL EIRIAS DDYDD SADWRN, 22 Gorffennaf 2023.

Er mwyn cael mynediad cynnar at docynnau, gall ffans gofrestru ar gyfer cyn-werthiant unigryw yr hyrwyddwr yma: https://bit.ly/ndubz-presale-colwyn

Cychwynnodd y triawd eu taith enfawr o’r DU Back To The Future , LLE GWERTHWYD Y TOCYNNAU I GYD y mis hwn, mae’r daith yn un o’r teithiau Arena sydd wedi gwerthu fwyaf yn y DU eleni. Mae'r galw am y sioeau hyn wedi bod yn eithriadol, sy'n golygu bod tocyn N-Dubz yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd.

Triawd yw N-Dubz, Dappy, Tulisa, a Fazer. Dechreuodd Fazer a Dappy, sydd wedi bod yn ffrindiau gorau ers plentyndod, rapio gyda'i gilydd i ddechrau ond penderfynwyd cael llais benywaidd yn y grŵp, gan wahodd Tulisa i ymuno.

Roeddent yn dominyddu siartiau'r DU yn bennaf rhwng 2006 a 2011, ac ar ôl hynny cymerasant seibiant hir. Cyhoeddodd y grŵp ei fod yn ailffurfio ym mis Mai 2022. Cafodd eu dau albwm cyntaf, Uncle B ac Against All Odds, eu hardystio fel rhai platinwm yn y DU. Cyrhaeddodd N-Dubz Rhif 1 yn Siart Senglau’r DU mewn cydweithrediad â Tinchy Stryder yn 2009.

Enillodd y triawd Wobr MOBO am y Newydd-ddyfodiad Gorau yn 2007 ac Act Orau'r DU yng Ngwobrau MOBO. Cyrhaeddodd trydydd albwm y triawd  Love.Live.Life  rif saith yn y DU a dyma’u trydydd albwm i werthu’n blatinwm yn olynol.

Cyhoeddodd y band eu bod yn ailffurfio gyda'r sengl  Charmer .

Cyflwynir ACCESS ALL EIRIAS gan enillydd Hyrwyddwr Rhanbarthol Byw y DU 3 gwaith, Orchard Live, ac mae’n dychwelyd yn 2023 ar ôl sioeau hynod lwyddiannus yn STADIWM CSM, mae sioeau’r gorffennol yn cynnwys Noel Gallaghers High Flying Birds, Simply Red, Pete Tong’s Ibiza Classics, Lionel Richie a Tom Jones.

Dywedodd Connor Cupples o Orchard Live
‘Mae’n wych dod yn ôl i Fae Colwyn, roedd cyngherddau’r llynedd gyda Noel Gallagher, Simply Red a Ibiza Classics gan Pete Tong yn rhagorol, mae N-Dubz yn un o’r artistiaid sy’n gwerthu fwyaf yn y DU ar hyn o bryd, ac mae'n wych dod â nhw i Eirias.’

MAE TOCYNNAU AR WERTH DDYDD GWENER TACHWEDD 18fed AM 10AM O GIGANTIC.COM a VENUECYRMU.CO.UK Prisiau yn cychwyn o £47.50 + Ffioedd.

Er mwyn cael mynediad cynnar at docynnau, gall ffans gofrestru ar gyfer cyn-werthiant unigryw yr hyrwyddwr yma: https://bit.ly/ndubz-presale-colwyn

Wedi ei bostio ar 16/11/2022

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content