Sesiwn Ar-lein Trawsnewid ADY
Mae Gwasanaeth Addysg a Gofal Cymdeithasol Conwy yn trefnu sesiwn gwybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr am y Rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein a bydd yn darparu gwybodaeth a chyngor i helpu rhieni/gofalwyr i gyfrannu mewn cyfarfodydd a thrafodaethau Adolygu sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.
Mae’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy yn annog rhieni a gofalwyr i gymryd rhan. Dywedodd, “Bydd y sesiwn hon yn amhrisiadwy os ydych yn debygol o fynychu cyfarfodydd adolygu gyda phlentyn neu berson ifanc neu ar eu rhan. Mae cyfarfodydd adolygu yn cynnig cyfle pwysig i siarad am anghenion eich plentyn a hefyd am eu cryfderau, eu dyheadau a'r ffordd orau o’u cefnogi.
“Bydd y sesiwn ar-lein hon yn eich helpu i wybod beth i’w ddisgwyl mewn cyfarfod adolygu a sut i wneud y gorau ohono.”
Mae croeso i bob rhiant/gofalwr.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal:
ar: Dydd Iau 4 Chwefror 2021
amser: 1-2yp
I ymuno â'r sesiwn, anfonwch eich enw a'ch cyfeiriad e-bost at ALN@conwy.gov.uk erbyn 21 Ionawr 2021. Byddwn yn cadarnhau eich lle ar y sesiwn ac yn anfon dolen atoch i'r sesiwn ar-lein.
Cefndir: Gwybodaeth Llywodraeth Cymru am y Rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol
Wedi ei bostio ar 06/01/2021