Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Archif 2024 Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Sialens Ddarllen yr Haf 2024


Summary (optional)
start content

Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Cyn bo hir bydd yn amser i ddarllenwyr ifanc archwilio eu creadigrwydd dros wyliau’r haf wrth i Lyfrgelloedd Conwy gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni, ‘Crefftwyr Campus’ yn dechrau ar 6 Gorffennaf 2024 a bydd yn cynnwys gweithgareddau am ddim i deuluoedd. 

Mewn partneriaeth â Create, elusen gelfyddydol flaenllaw, a llyfrgelloedd cyhoeddus, mae’r sialens eleni’n dathlu creadigrwydd a gallu dweud stori’r plant. 

Yn ystod yr haf, gall plant rhwng 4-11 oed ymweld ag unrhyw lyfrgell yn Sir Conwy i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf, a thanio eu dychymyg drwy rym darllen a mynegiant creadigol.

Gofynnir i blant ddarllen 6 llyfr (neu fwy!) cyn diwedd yr haf. Byddant yn cael poster casglwyr arbennig pan fyddant yn ymuno â’r Sialens Ddarllen, sticeri pan fyddant yn ymweld â’r llyfrgell i gael mwy o lyfrau a thystysgrif a gwobr pan fyddant yn cwblhau’r sialens.  Bydd plant yn cael eu hannog i archwilio llyfrau a straeon newydd yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim, o gelf a chrefft i gerddoriaeth, dawns a mwy.

Nod Sialens Ddarllen yr Haf yw osgoi’r cwymp colli dysgu y mae llawer o blant yn ei brofi dros wyliau’r haf pan nad ydynt yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth llyfrgelloedd, mae’n cynnig ffordd hwyliog, am ddim o gadw meddyliau ifanc yn brysur. Drwy ddarllen llyfrau a chasglu pethau i’w hannog yn Llyfrgelloedd Conwy, gall darllenwyr ifanc feithrin eu sgiliau meddwl creadigol dros wyliau’r haf. 

Ewch i llyfrgelloeddconwy.com i weld yr holl weithgareddau sydd ar gael i deuluoedd ac i gael mwy o wybodaeth am eich llyfrgell leol.

Wedi ei bostio ar 26/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content