Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Archif 2024 Ail-gyflwyno gwasanaeth bws rhif 14 drwy Bryn-y-Bia Road

Ail-gyflwyno gwasanaeth bws rhif 14 drwy Bryn-y-Bia Road


Summary (optional)
start content

Ail-gyflwyno gwasanaeth bws rhif 14 drwy Bryn-y-Bia Road

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Arriva Wales wedi bod yn cydweithio er mwyn dod o hyd i ddatrysiad i newidiadau i wasanaeth bws rhif 14 yn Ochr y Penrhyn. Bu i deithwyr godi pryderon nad oedd gwasanaeth rhif 14 yn gwasanaethu Ochr y Penrhyn yn dilyn newidiadau ym mis Medi 2023.  Yn dilyn trafodaethau, mae’r Cyngor ac Arriva wedi trefnu i ail-gyflwyno’r gwasanaeth drwy Bryn-y-Bia Road o fis Gorffennaf ymlaen, gyda newid yn yr amserlen.

Dywedodd Adam Marshall, Pennaeth Masnachol Arriva Wales: “Pan roddwyd y cyfyngiadau cyflymder 20mya mewn lle, bu i Arriva Wales adolygu ein holl wasanaethau i sicrhau eu bod mor brydlon â phosib. Roedd rhaid i ni wneud y penderfyniad i roi mwy o amser i deithiau, a newid y teithiau i fynd ar ffyrdd cynt er mwyn cynnal prydlondeb cyffredinol.

Roeddem yn ymwybodol bod y preswylwyr lleol yn siomedig, ac rydym wedi bod yn cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddatrys y mater.

“Rydym yn falch iawn o ddweud y bydd gwasanaeth bws rhif 14 yn cael ei ddargyfeirio i weithredu drwy Bryn-Y-Bia Road ym mis Gorffennaf.

“Rydym wedi gallu sicrhau hyn drwy weithio’n agos gyda’n partneriaid yn y Cyngor ac adolygu’r data o ran prydlondeb, ac ystyried unrhyw adolygiadau i’r canllawiau ynghylch y cyfyngiadau cyflymder 20mya.  Byddwn yn parhau i gydweithio ac os bydd unrhyw newidiadau eraill yn digwydd ac os bydd modd, mi fyddwn yn adolygu gwasanaeth rhif 15 hefyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda chwmnïau bysiau lleol i gefnogi’r gwasanaeth gorau i’n preswylwyr. Rydym yn falch iawn bod Arriva yn gallu ail-gyflwyno’r rhan hon o’r daith i gynorthwyo preswylwyr a fyddai fel arall yn ei chael hi’n anodd i deithio.”

 

Wedi ei bostio ar 14/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content