Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llety Dros Dro i Geiswyr Lloches

Llety Dros Dro i Geiswyr Lloches


Summary (optional)
start content

Llety Dros Dro i Geiswyr Lloches

Mae’n debyg eich bod wedi gweld yr eitemau yn y newyddion ynglŷn â’r Swyddfa Gartref yn darparu llety tymor byr i bobl sy’n ceisio lloches mewn gwesty yn Nolgarrog.

Mae’r Cyngor, y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith gan y Swyddfa Gartref i gefnogi’r unigolion yn y gwesty a’r gymuned leol.  

Pwy wnaeth y trefniadau hyn?
Mae gan y Swyddfa Gartref, drwy eu darparwr Clearsprings, y contract gyda pherchnogion y gwesty. 
Mae gan y Swyddfa Gartref ddyletswydd statudol i gynnig llety i bobl sy’n ceisio lloches a fyddai fel arall yn amddifad a darparu eu hanghenion byw hanfodol tra bod eu cais am loches yn cael ei ystyried. 
Mae’r contractwr SBHL yn gyfrifol am y trefniadau ar y safle ac am yr unigolion sy’n aros yno.   Mae SBHL yn cael ei is-gontractio gan Clearsprings.   

Pwy sy’n aros yno? 
Gellir darparu llety i hyd at 106 o unigolion.  

O ble maen nhw’n dod? 
Rydym wedi cael gwybod fod y bobl yn y gwesty o ystod o wledydd.  

Pam eu bod yn derbyn llety yng Ngogledd Cymru? 
Mae gan y Swyddfa Gartref ddyletswydd statudol i gynnig llety i bobl sy’n ceisio lloches a darparu ar gyfer eu hanghenion byw hanfodol tra ystyrir eu cais am loches.  Mae pobl yn cael llety yn y gwesty hwn oherwydd yr ôl-groniad a’r oedi wrth brosesu ceisiadau.

Faint o arian maent yn ei gael? 
Rydym yn deall os byddant yn dewis gwneud hynny y gallant ymgeisio i Lywodraeth y DU i dderbyn £8 yr wythnos.

Ydy’r Swyddfa Gartref yn defnyddio gwestai eraill yn sir Conwy i gynnig llety i bobl sy’n ceisio lloches? 
Nid ydym yn ymwybodol bod y Swyddfa Gartref wedi gwneud unrhyw drefniadau gydag unrhyw westy arall yn y sir.

A yw’r Cyngor, y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu yn rhan ohono? 
Ni chafodd y Cyngor rybudd ymlaen llaw bod y Swyddfa Gartref yn bwriadu darparu llety i bobl yn y gwesty yn Nolgarrog.
Mae’r Cyngor, y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith gan y Swyddfa Gartref i gefnogi’r unigolion yn y gwesty a’r gymuned leol. 
Yn ychwanegol at hyn, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i ddelio ag unrhyw faterion sy’n codi, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal presenoldeb yn yr ardal i sicrhau’r gymuned.  Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymweld â’r safle i wirio’r mesurau diogelwch tân. 
Mae’r trefniadau statudol ar gyfer gofal a lles oedolion a phlant diamddiffyn sy’n berthnasol ar draws y DU fel arfer yn gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol.  Mae ceiswyr lloches yn destun y gweithdrefnau a phrosesau diogelu hyn yn yr un ffordd ag eraill yn y gymuned.  Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gyfrifol am unrhyw faterion diogelu. 

Pobl sy’n ceisio lloches a ffoaduriaid - pwy ydy pwy?

Unigolyn sy’n ceisio lloches 
Unigolyn sydd wedi gadael ei wlad enedigol a gwneud cais ffurfiol am loches mewn gwlad arall ond heb gael cadarnhad o ganlyniad y cais eto.

Ffoadur 
Y diffiniad o ffoadur yn ôl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig i Statws Ffoaduriaid 1951 yw: 
“Unigolyn sydd, oherwydd ofn rhesymol o gael ei erlid am resymau hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol neu farn wleidyddol, y tu allan i wlad ei genedligrwydd ac yn methu neu, oherwydd y fath ofn, yn anfodlon manteisio ar amddiffyniad y wlad honno; neu sydd, heb fod â chenedligrwydd a bod y tu allan i wlad ei gartref arferol o ganlyniad i ddigwyddiadau o'r fath, yn methu neu, oherwydd y fath ofn, yn anfodlon dychwelyd iddi.” 
Yn y DU mae unigolyn yn dod yn ffoadur pan mae’r llywodraeth yn cytuno bod unigolyn sydd wedi gwneud cais am loches yn cyd-fynd â’r diffiniad yn y Confensiwn Ffoaduriaid.  Byddant yn ‘adnabod’ yr unigolyn hwnnw fel ffoadur ac yn rhoi dogfennau statws ffoadur iddo. Fel arfer mae ffoaduriaid yn y DU yn cael caniatâd i aros fel ffoadur am bum mlynedd. Ar ôl hynny mae’n rhaid iddynt wneud cais am ganiatâd pellach, ond nid yw eu statws ffoadur yn gyfyngedig i bum mlynedd.

Mewnfudwr 
Rhywun sydd wedi symud i wlad arall am resymau eraill, fel chwilio am waith.

Wedi ei bostio ar 16/11/2022

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content