Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Benches on Colwyn Bay Pier

Meinciau ar Bier Bae Colwyn


Summary (optional)
start content

Meinciau ar Bier Bae Colwyn

Gosodwyd meinciau ar Bier Bae Colwyn yn ddiweddar.

Mae’r meinciau wedi’u hariannu drwy gronfa y Pethau Pwysig gan Lywodraeth Cymru a thrwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i ddarparu isadeiledd twristiaeth bach ei faint ar hyd a lled Cymru.

Mae dyluniad a lliwiau’r deuddeg mainc yn cyd-fynd â dyluniad y balwstradau a osodwyd ar y Pier rhestredig Gradd II gwreiddiol. Cafodd y balwstradau o’r Pier gwreiddiol eu cadw a’u trwsio, a chafodd copïau eu gwneud hefyd, pan adeiladwyd y Pier byrrach. Mae lliwiau’r gwaith haearn addurniadol wedi eu dewis ar ôl cael canlyniadau dadansoddiad paent oedd yn dyddio’r cynllun lliwiau i 1934.

Mae pennau’r meinciau newydd yn cyd-fynd â balwstradau’r Pier. Cawsant eu creu gan wneuthurwr meinciau traddodiadol arbenigol a’u castio mewn ffowndri gan ddefnyddio patrwm unigryw cyn eu peintio â llaw.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet Cymdogaethau a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Rydyn ni’n falch iawn o weld y meinciau yma’n cael eu gosod, fydd yn golygu bod pobl yn gallu mwynhau’r Pier a’r golygfeydd o’r traeth a’r arfordir. Mae’r Pier a’r meinciau’n cydnabod dyluniadau peirianwyr Oes Fictoria ac yn helpu i roi ymdeimlad o le. Mae’r prosiect yn sicrhau bod y Pier yn parhau i fod yn ganolbwynt i dref Bae Colwyn a fydd yn gallu cael ei fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 23/05/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content