Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwyliwch rhag sgamiau ffôn

Gwyliwch rhag sgamiau ffôn


Summary (optional)
start content

Gwyliwch rhag sgamiau ffôn

Mae tîm Treth y Cyngor Conwy’n galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus o sgamiau dros y ffôn ac mewn negeseuon testun.

Os ydych yn cael galwad ffôn neu neges destun yn honni eich bod yn gymwys am ad-daliad treth y cyngor neu yn holi beth yw band Treth y Cyngor eich eiddo, peidiwch â rhoi eich manylion banc.  

Yn yr un modd ag unrhyw alwad ddiwahoddiad, os ydych chi mewn unrhyw amheuaeth, gofynnwch am rif ffôn y galwr a gwirio ei fod o’n un dilys.  Ni fydd hyn yn broblem i unrhyw weithiwr proffesiynol.

Mae hi hefyd werth atgoffa perthnasau a ffrindiau hŷn i fod yn ofalus gyda’u manylion personol a’u manylion banc.

Cofiwch y gall preswylwyr Conwy hefyd gael cyngor a chymorth am ddim ynghylch Treth y Cyngor a Budd-daliadau gan y Cyngor trwy ffonio (01492) 576607 neu anfon e-bost at trethycyngor@conwy.gov.uk neu ar-lein ar www.conwy.gov.uk/trethycyngor

Os ydych yn credu eich bod wedi bod yn destun sgam, rhowch wybod i safonau.masnach@conwy.gov.uk

 

 

Wedi ei bostio ar 21/07/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content