Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyllideb 2023/24


Summary (optional)
start content

Cyllideb 2023/24

Heddiw [02/03/23] gosododd Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Dreth y Cyngor a’r Gyllideb ar gyfer 2023/24.

Cyflwynodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Cyllid, yr adroddiad i gyfarfod y Cyngor.

Meddai, “Hon yw’r gyllideb anoddaf yr wyf erioed wedi dod ar ei thraws fel cynghorydd.

“Rydym ni bellach yn gwybod sut mae’r holl bwysau allanol yn effeithio ar ein cyllideb ac rydw i’n sylweddoli nad yw’r adroddiad hwn yn un braf i’w ddarllen.

Mae cynnydd yn yr angen o ran tai, costau ynni cynyddol, chwyddiant a dyfarniadau cyflog cenedlaethol oll wedi rhoi galw sylweddol ar ein gwasanaethau a’n cyllidebau. Mae hyn wedi gwneud mynd i’r afael â’r diffyg adnoddau yn heriol, er gwaethaf setliad gwell na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru.”

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn gwasanaethau hanfodol, ond i fynd i’r afael â’r diffyg o £21.7 miliwn bydd arnom ni angen lleihau achosion busnes, lleihau cyllidebau a chodi Treth y Cyngor.”

Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo’r Gyllideb a phennu Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24.

Cefnogodd y Cynghorwyr yr argymhelliad y dylai rhan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o Dreth y Cyngor Band D ar gyfer 2023/24 fod yn £1,580.53, sy’n gynnydd o £142.38 ar gyfer y flwyddyn - sy’n cyfateb i £2.74 ychwanegol bob wythnos. 

 

Wedi ei bostio ar 02/03/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content