Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyllideb a Threth y Cyngor 2026/2027

Cyllideb a Threth y Cyngor 2026/2027


Summary (optional)
start content

Cyllideb a Threth y Cyngor 2026/2027

Heddiw (05/03/26), gosododd Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y Gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer 2026/27.

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Cyllid a Chynllunio Strategol, yr adroddiad i gyfarfod y Cyngor. Gwyliwch y drafodaeth yn: Y Cyngor - Dydd Iau 5 Mawrth 2026

Bu i’r Cyngor gymeradwyo’r Gyllideb a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2026/27.

Mae hyn yn golygu cynnydd o 6.09% i Dreth y Cyngor er mwyn ariannu gwasanaethau’r Cyngor, a chynnydd o 0.41% i ariannu ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy’n gynnydd cyfunol o 6.5%.

Yn seiliedig ar Dreth y Cyngor Band D, mae hynny’n gynnydd o £115.01 (£2.21 yr wythnos) ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a chynnydd o £7.74 (£0.15 yr wythnos) ar gyfer ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae hynny’n gynnydd cyfunol o £122.75 (£2.36 yr wythnos), sy’n codi Treth y Cyngor Band D i £2,011.26.

Bydd lefel wirioneddol Treth y Cyngor y codir tâl amdano ar gyfer eiddo unigol yn dibynnu ar y band prisio ar gyfer yr eiddo, y praesept ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a'r Cyngor Tref / Cymuned lle mae'r eiddo.

Enghraifft Band D
 2025/26 Band D (£) 2026/27 Band D (£) Cynnydd Band D (£) Cynnydd (%) 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (sy’n cynnwys ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru)   1,888.51  2,011.26  122.75  6.50%
 Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru  372.15  398.25  26.10  7.01%
 Cynghorau Tref / Cymuned (Cyfartaledd)  60.17  63.31  3.14  5.22%
 Cyfanswm  2,320.83  2,472.82  151.99  6.55%

Mae gan Gonwy oddeutu 56,200 o anheddau sy’n talu Treth y Cyngor ac mae oddeutu 21,200 o’r rhain yn cael gostyngiad person sengl.  

Mae oddeutu 9,500 o aelwydydd yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor (a bydd rhai yn derbyn gostyngiad person sengl hefyd).

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn a’r atodiadau yn: Agenda ar gyfer y Cyngor, ddydd Iau 5 Mawrth 2026, 10.00 am

Rhagor o wybodaeth: 

Sut rydym yn gwario arian - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pam bod y Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb? - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

 

 

Wedi ei bostio ar 05/03/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?