Galw am Safleoedd Tai Fforddiadwy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am safleoedd addas ar gyfer tai fforddiadwy.
Mae’r Cyngor wrthi’n adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar hyn o bryd.
Pan fydd y CDLl newydd wedi’i fabwysiadu, caiff ei ddefnyddio i arwain datblygiadau yn y Sir hyd at 2033.
Rhan o'r gwaith hwn yw sicrhau ein bod yn cyfrannu tuag at ddiwallu’r angen am dai fforddiadwy yn y sir.
Er mwyn diwallu’r angen hwn, mae’r Cyngor yn ‘galw am safleoedd’ ac yn gwahodd perchnogion tir, datblygwyr a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gyflwyno safleoedd addas i’w hystyried.
Cânt eu gwahodd i gyflwyno safleoedd lle bydd o leiaf 50% o’r tai yn fforddiadwy (tai rhent cymdeithasol ac/neu ganolradd). Bydd pob safle’n cael ei asesu ar gyfer materion fel perygl o lifogydd, mynediad a bioamrywiaeth.
Meddai y Cyng Emily Owen, Aelod Cabinet Tai a Rheoleiddio, “Nid yw’n gyfrinach bod tai fforddiadwy addas yn brin. Mae cynyddu’r cyflenwad a diwallu anghenion lleol drwy ein proses gynllunio yn un o flaenoriaethau’r Cyngor. Byddwn yn annog perchnogion tir, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a datblygwyr i ystyried y diffygion cymunedol a chyflwyno safleoedd i’w hystyried yn ein CDLl newydd.”
I gael manylion am sut i gyflwyno safle, ewch i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy / Conwy County Borough Council - Galw am Safleoedd Tai Fforddiadwy (oc2.uk)
Neu anfonwch neges e-bost gyda manylion y safle(oedd) i: cdll.ldp@conwy.gov.uk, neu anfon llythyr i’r adran Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN.
Wedi ei bostio ar 11/08/2022