Galwad i oedi Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol
Mae Conwy yn galw ar Lywodraeth Cymru i oedi’r cynnydd ar Gydbwyllgorau Corfforaethol tan i’r holl ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu hystyried yn drylwyr.
Mae Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol yn rhan o’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), ac yn mynd trwy’r Senedd ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori gyda Chynghorau ar y rheoliadau ar gyfer sefydlu Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol.
Yn ei ymateb i’r ymgynghoriad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr adborth yn ofalus cyn symud ymlaen ymhellach â’r Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol.
Yn ei ymateb ffurfiol i Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn cydnabod y gall swyddogaethau penodol gael eu darparu yn fwy effeithiol ar raddfa ac yn cyfeirio at waith rhanbarthol cyfredol sydd eisoes yn digwydd yng Ngogledd Cymru.
Ond mae’r Cyngor yn gwrthwynebu i Gydbwyllgorau Corfforaethol gael eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru gan y bydd yn “difreinio aelodau etholedig lleol”.
Mae’r Cyngor hefyd yn codi pryderon am atebolrwydd a chraffu’r Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol, sut fyddent yn cael eu hariannu a’u staffio, ac effaith ar dwf rhanbarthol os na fydd y trefniadau trosglwyddo priodol yn eu lle.
Mae’n hanfodol bod holl awdurdodau yn cael amser digonol i ystyried y dull, risgiau a’r materion o sefydlu Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol.
Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 12 Ionawr 2021, 2.00 pm
Wedi ei bostio ar 13/01/2021