Cartref Newyddion Eitemau newyddion Achos yn Llys Ynadon Llandudno (28/07/25)
start content

Achos yn Llys Ynadon Llandudno (28/07/25)

Conwy CBC Logo RGB

Dydd Llun (28/07/25) gwnaeth Llys Ynadon Llandudno ddirwyo S H Property Trading Ltd am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella yn 24 Marine Road, Pensarn.

Plediodd cynrychiolydd y cwmni yn euog i ddau gyhuddiad yn ymwneud â drysau tân yn Fflat 3 a Fflat 5 24 Marine Road.  Bydd pedwar cyhuddiad yn ymwneud ag eiddo arall yn aros ar ffeil.

Cafodd y cwmni ddirwy o £3,000 mewn cysylltiad â Fflat 3 a £3,000 mewn cysylltiad â Fflat 5, gorchmynnwyd i’r cwmni dalu costau cyfreithiol ac ymchwiliol o £3,327.04, a gordal dioddefwr o £2,000.  Cyfanswm o £11,327.04.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth, yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio, “Mae’n rhaid i landlordiaid gydymffurfio â deddfwriaeth a sicrhau bod eu heiddo rhent yn ddiogel ac yn addas i’w tenantiaid.”

Yn ei sylwadau dedfrydu, dywedodd y Barnwr mai’r gobaith yw y bydd S H Property Trading Ltd yn awr yn gweithio'n adeiladol gyda'r awdurdod lleol.

 

 

Wedi ei bostio ar 30/07/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content