Casgliad yr Oes Efydd o Abergele yn cyrraedd Canolfan Ddiwylliant Conwy
Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy wedi prynu casgliad arbennig o arteffactau’r Oes Efydd, diolch i gyllid gan Gronfa Grant Prynu V&A/Cyngor Celfyddydau Lloegr ac Ymddiriedolaeth Headley.
Darganfuwyd y casgliad gan Colin Rivett ym mis Ebrill 2017, pan oedd yn defnyddio peiriant canfod metel yn Abergele. Bu’n gyfrifol iawn a gadael mwyafrif yr arteffactau wedi’u claddu yn y ddaear a chysylltodd â Mark Lodwick, Cydlynydd y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) fel pwynt cyswllt cyntaf am gyngor. Yn fuan wedyn, cynhaliwyd ymchwiliad archeolegol o’r casgliad gan dîm bach o archaeolegwyr dan arweiniad Mark Lodwick o PAS Cymru gyda help y darganfyddwr, gan alluogi ymchwiliad gofalus a chofnodi’r cyd-destun claddu ac adfer arteffactau’r casgliad fel rhan o achos trysor parhaus (Achos Trysor 17.07). Aethpwyd â’r casgliad i Amgueddfa Cymru, lle gwnaeth y curadur arbenigol, Adam Gwilt, adrodd ar y casgliad i’r Crwner.
Yna datganodd Crwner E.F. Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanolog) ym mis Chwefror 2022 fod y casgliad yn drysor ac aethpwyd ag ef i’r Amgueddfa Brydeinig, lle cafodd ei brisio’n annibynnol trwy’r Pwyllgor Prisio Trysor.
Yn dilyn gweithgarwch codi arian llwyddiannus, cafodd y casgliad ei gaffael a’i drosglwyddo i Wasanaeth Amgueddfeydd y sir.
Mae’r casgliad yn cynnwys tri ar ddeg o arteffactau sy’n dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd (1200-700CC) ac mae’n darparu tystiolaeth newydd o feddiannaeth Diwedd yr Oes Efydd yn Sir Conwy. Mae cysylltiadau i’w hymchwilio gyda mwynglawdd copr yr Oes Efydd ar y Gogarth hefyd, sydd tua 12 milltir o le y darganfuwyd y casgliad.
Pan fyddant wedi’u cadw, bydd yr arteffactau’n cael eu harddangos yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ac mae digwyddiadau estyn allan wedi’u cynllunio, yn enwedig gydag ysgolion a grwpiau o ardal Abergele.
Dywedodd Rachel Evans, Swyddog Cefnogi Datblygu ac Achredu Amgueddfeydd: “Rydym yn hynod o gyffrous i ddod â’r casgliad hwn o’r Oes Efydd adref i Sir Conwy. Mae’n cyfoethogi hanes yr Oes Efydd Gogledd Cymru gan gynnig straeon newydd am yr hyn yr oedd pobl yn ei wneud yma yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn ddiolchgar i’n harianwyr gwych am y cyfle hwn i arddangos y gwrthrychau ar gyfer pobl Conwy.”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Conwy: “Hoffem ddiolch i’n harianwyr am ein galluogi i gaffael y casgliad gwych hwn i bobl Sir Conwy er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau, a diolch i Amgueddfa Cymru am ein cefnogi i’w gaffael.”
I ganfod mwy ynglŷn â Chanolfan Ddiwylliant Conwy, ewch i: www.diwylliantconwy.com
Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook: www.facebook.com/diwylliantconwyculture
Wedi ei bostio ar 29/08/2023