Nodyn Atgoffa Rhyddhad Ardrethi Elusennol
Atgoffir sefydliadau cymwys yn Sir Conwy i sicrhau nad ydynt yn colli allan ar Ryddhad Elusennol ar gyfer 2023-2026.
Gall elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol a sefydliadau nid er elw wneud cais am ryddhad ardrethi elusennol hyd at 80% os defnyddir eiddo ar gyfer dibenion elusennol, a gellir cael rhyddhad 100% mewn rhai achosion.
Mae’r rhyddhad hwn yn cael ei adolygu bob tair blynedd a bydd yn dod i ben ar holl gyfrifon ar 31 Mawrth 2023.
Mae llythyrau/e-byst wedi’u hanfon at elusennau a chlybiau chwaraeon yn Sir Conwy i’w hatgoffa.
Os yw eich sefydliad wedi bod yn derbyn y Rhyddhad Elusennol hwn, ond nad ydych chi wedi cyflwyno’ch cais ar gyfer 2023-2026 - peidiwch ag oedi, mae’n amser gwneud cais nawr.
I wneud cais, ewch i: www.conwy.gov.uk/rhyddhadelusennol
Wedi ei bostio ar 14/02/2023