Diwrnod y Gymanwlad 2026
Commonwealth Day 2026
Cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cyng. Trystan Lewis, Dirprwy Arglwydd Raglaw, Jean Bryson, a phlant o Ysgol Sant Joseff.
Nodwyd diwrnod y Gymanwlad ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig a gwledydd y Gymanwlad am 10am heddiw (09/03/26).
Yn Sir Conwy, cynhaliwyd seremoni yn Siambr y Cyngor yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, ac yn bresennol roedd y Dirprwy Arglwydd Raglaw, Jean Bryson, Cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cyng. Trystan Lewis, a phlant o Ysgol Sant Joseff.
Cymerodd awdurdodau lleol a phwysigion dinesig, grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Ynysoedd Prydain, ran mewn digwyddiadau a seremonïau codi baner lleol i nodi Diwrnod y Gymanwlad.
Mae'r digwyddiad yn galluogi i bobl gymryd rhan yn eu cymunedau lleol ac i ymuno ag eraill ledled y wlad wrth fod yn rhan o ymrwymiad cyhoeddus i’r Gymanwlad, a gwerthfawrogi gwerthoedd y sefydliad a'r cyfleoedd a gynigir i'w ddinasyddion ar draws y byd.
Cafodd Cadarnhad ysgrifenedig arbennig y Gymanwlad ei ddarllen yn uchel yn y seremoni.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://thecommonwealth.org/commonwealth-day
Wedi ei bostio ar 09/03/2026