Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diwrnod y Gymanwlad


Summary (optional)
start content

Diwrnod y Gymanwlad

Cafodd baneri’r Gymanwlad eu chwifio ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig a gwledydd y Gymanwlad am 10am heddiw [11/03/24] i nodi Diwrnod y Gymanwlad.

Ym Mwrdeistref Sirol Conwy, codwyd y faner ym Modlondeb, Conwy gan Gadeirydd y Cyngor, y Cyng. Ifor Lloyd, a disgyblion Ysgol Porth y Felin.

Cymerodd awdurdodau lleol a phwysigion dinesig, grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Ynysoedd Prydain, ran mewn digwyddiadau a seremonïau codi baner lleol i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad.

Mae'r digwyddiad yn galluogi i bobl gymryd rhan yn eu cymunedau lleol ac i ymuno ag eraill ledled y wlad wrth fod yn rhan o ymrwymiad cyhoeddus i’r Gymanwlad, a gwerthfawrogi gwerthoedd y sefydliad a'r cyfleoedd a gynigir i'w ddinasyddion ar draws y byd.

Cafodd Cadarnhad ysgrifenedig arbennig y Gymanwlad ei ddarllen yn uchel yn y seremoni cyn codi baner y Gymanwlad. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://thecommonwealth.org/commonwealth-day

Wedi ei bostio ar 11/03/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content