Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy 2025, lle llawn antur

Conwy 2025, lle llawn antur


Summary (optional)
start content

Conwy 2025, lle llawn antur

Conwy yw’r cyrchfan antur gorau. O’r dirwedd naturiol hyfryd i’r amrywiaeth o brofiadau hwyliog, beth bynnag yw’r tywydd. Beth am ryddhau’r plentyn sydd y tu mewn i chi drwy gymryd rhan mewn anturiaethau llawn egni neu amrywiaeth o weithgareddau llai corfforol, gall unrhyw beth fod yn antur.

Conwy yw canolfan antur Cymru a chredir y gall diwylliant fod yn antur hefyd! Dylai pobl fedru teimlo’n hyderus ac yn gyffrous am fynd ar anturiaethau diwylliannol, gan gynnwys pobl sy’n teimlo nad yw diwylliant ‘at eu dant nhw.’

Dywedodd Rhys Thomas, Rheolwr Cyffredinol Gerddi Bodnant, Conwy “Rydym yn cefnogi Conwy 2025. Byddem yn annog pawb i archwilio diwylliant, mae’n gallu cynnig antur wych i bawb ei mwynhau. Mae diwylliant yn gallu bod yn ffordd wych o annog cymunedau i weithio gyda’i gilydd, a rhoi cyfle i bawb gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Mae ysbryd cymunedol yn ysgogwr gwych ar gyfer gwneud lleoliadau arbennig yn well i bawb.”

Mae gan sir Conwy gymaint i’w gynnig ac mae’n bosibl y bydd Conwy 2025 yn gallu cynnig mwy fyth. Byddwch yn rhan o’r antur – cymerwch ran yn Conwy 2025 Conwy 2025 | Cefnogi ein cais

Wedi ei bostio ar 25/08/2021

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content