Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Heddiw (dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019)

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy gydol y dydd, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Archifdy Conwy: Diwrnod Agored i Ffarwelio

Archifdy Conwy: Diwrnod Agored i Ffarwelio


Summary (optional)
start content

Archifdy Conwy: Diwrnod Agored i Ffarwelio

Bydd Archifdy Conwy yn symud i gartref newydd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, y flwyddyn nesaf. Hoffem ddiolch i’r holl bobl sydd wedi bod yn gweithio yma, wedi gwirfoddoli yma ac wedi cefnogi ein gwaith ers 1996, felly byddwn yn cynnal Diwrnod Agored i Ffarwelio ar 13 Rhagfyr 2019.

Bydd gennym arddangosfa o ddogfennau sy’n gysylltiedig â hanes yr Hen Ysgol Fwrdd sydd wedi chwarae rhan mor fawr ym mywydau cymaint o bobl Llandudno, ynghyd ag arddangosfa am Ganolfan Ddiwylliant newydd Conwy. Bydd cyfle i rannu atgofion gyda'r staff dros baned a chacen.

Ond, fel y bydd llawer ohonoch eisoes yn gwybod, nid dyma’r diwedd i’r Hen Ysgol Fwrdd. Bydd Penderyn yn rhannu’r diwrnod gyda ni, a byddant ar gael i siarad am eu cynlluniau anhygoel ar gyfer dyfodol llewyrchus yr adeilad hwn.

Bydd ein drysau’n agor am 10am a byddwn ar gael drwy’r dydd tan 4.30pm i ymwelwyr alw heibio i gofio’r gorffennol a dychmygu’r dyfodol gyda ni.

Does dim angen i chi archebu – mae croeso i bawb; ond os hoffech chi gysylltu â ni i drafod y digwyddiad, mae croeso i chi wneud hynny.  Ffoniwch 01492 577550 neu e-bostiwch archifau.archives@conwy.gov.uk

 

Wedi ei bostio ar 22/11/2019

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy