Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cynghorwyr Conwy'n cytuno i ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr Ardoll Ymwelwyr

Cynghorwyr Conwy'n cytuno i ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr Ardoll Ymwelwyr


Summary (optional)
start content

Cynghorwyr Conwy'n cytuno i ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr Ardoll Ymwelwyr

Visitor Levy image

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr

Mae cynghorwyr Conwy heddiw (14/05/26) wedi cytuno i ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr Ardoll Ymwelwyr. 

Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).  Cymeradwywyd y Bil gan Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2025 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 18 Medi 2025.

Mae'r Bil yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. 

Mae cynnal ymgynghoriad yn rhan o'r broses a rhaid ei wneud cyn gofyn i gynghorwyr benderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ai peidio. 

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor heddiw (14/05/26), rhoddodd y cynghorwyr ganiatâd i gynnal ymgynghoriad.

Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Rwy’n croesawu’r cyfle i ymgynghori ar yr Ardoll Ymwelwyr gyda budd-ddeiliaid, busnesau, trigolion a thwristiaid. Bydd ymatebion y rhai sy’n ymgysylltu â’r ymgynghoriad yn rhoi adborth gwerthfawr i’r aelodau etholedig gan alluogi aelodau i wneud penderfyniad democrataidd gwybodus ar y mater pwysig hwn.”

 “Rydym yn gwybod bod cryn ddiddordeb yn yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghonwy, a dyna pam rydym wedi cyflogi cwmni annibynnol i gynnal ymgynghoriad i fesur y farn leol.”

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr yn ddiweddarach eleni pan fyddant yn trafod a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn Sir Conwy.

 

Dolen at y rhaglen, adroddiad a’r gweddarllediad: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cyngor Dydd Iau 14 Mai 2026, 10.00 am

Cwestiynau Cyffredin: Ardoll Ymwelwyr

Wedi ei bostio ar 14/05/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?