Arweinydd y Cyngor yn Penodi Cabinet
Etholwyd y Cynghorydd Charlie McCoubrey yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy heddiw (19 Mai 2022).
Mae o wedi penodi’r cynghorwyr a ganlyn i’w Gabinet:
Cyng Emily Owen: Tai a Rheoleiddio a’r Dirprwy Arweinydd
Cyng Mike Priestley: Cyllid, Refeniw a Budd-daliadau
Cyng Julie Fallon: Addysg
Cyng Liz Roberts: Plant, Teuluoedd a Diogelu
Cyng Penny Andow: Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig
Cyng Goronwy Edwards: Gwasanaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd
Cyng Geoff Stewart: Gwasanaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Cymdogaeth a’r Amgylchedd
Cyng Aaron Wynne: Diwylliant a Hamdden
Cyng Chris Cater: Democratiaeth a Llywodraethu
Dywedodd y Cynghorydd McCoubrey: “Mae’r Cabinet yn cynnwys clymblaid o 10 aelod, sy’n cynnwys 6 aelod o Grŵp Annibynnol Conwy’n Gyntaf, 2 aelod o Blaid Lafur Cymru a 2 aelod o Blaid Cymru.
“Wrth ddiffinio’r portffolios a phenodi i’r rolau, rwyf wedi manteisio ar drafodaethau gydag Arweinwyr Grŵp a nifer o aelodau. Rydw i’n credu fy mod wedi cyflawni cydbwysedd priodol o aliniad gwleidyddol, amrywiaeth, iaith a daearyddiaeth y fwrdeistref sirol.
“Rydw i hefyd wedi ystyried cryfderau a galluoedd yr aelodau sydd wedi cynnig eu hunain i’w hystyried ar gyfer y swyddi er mwyn creu Cabinet sydd â’r gallu i fodloni’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r Cyngor a phobl a busnesau Conwy.”
Wedi ei bostio ar 19/05/2022