Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Sefyllfa Bresennol 09/03/23

Sefyllfa Bresennol 09/03/23


Summary (optional)
start content

Sefyllfa Bresennol 09/03/23

Coronafeirws Covid-19 

07/03/23: Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn dechrau ar 1 Ebrill i'r rheini sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl dros 75 oed. Mwy o wybodaeth: Rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID y gwanwyn i bobl dros 75 oed a'r rheini sydd fwyaf agored i niwed | LLYW.CYMRU  

Brechlynnau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sut i cael phigiad atgyfnerthu COVID-19 Hydref a brechlyn ffliw
Llywodraeth Cymru: Brechlyn: coronafeirws | Is-bwnc | LLYW.CYMRU 
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Gwybodaeth Brechlyn COVID-19  
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Brechlyn ffliw a phigiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Imiwneiddio a Brechlynnau 
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Brechlyn Ffliw
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth am frechlyn COVID-19   

Cael prawf coronafeirws (COVID-19) 
Llywodraeth Cymru: Cael prawf coronafeirws (COVID-19) | LLYW.CYMRU 

Cyngor iechyd
Llywodraeth Cymru: Cyngor iechyd ar gyfer byw gyda coronafeirws 
Llywodraeth Cymru: Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 | LLYW.CYMRU

Profi Olrhain Diogelu 
Bydd gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru yn cysylltu â chi os ydych wedi profi'n bositif am y coronaferiws neu os cadarnhawyd eich bod wedi bod mewn cysylltiad agos gyda rhywun sydd â’r coronafeirws.   Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru ar gael i’ch cefnogi drwy’r broses, yn arbennig os ydych yn ddiamddiffyn neu os oes gennych unrhyw bryderon am hunan-ynysu.  
Mae un Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn gweithredu ar draws Gogledd Cymru i gyd.  Mae hyn yn disodli’r gwasanaethau a ddarparwyd o’r blaen gan bob un o chwe chyngor Gogledd Cymru. 
Mae llinell peiriant ateb Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru ar agor i’r cyhoedd a chaiff ei monitro o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.  Y rhif ffôn yw 01352 703800


Ap COVID-19 y GIG 
Mae’r ap yn rhan o'n rhaglen profi ac olrhain cysylltiadau'r coronafeirws (COVID-19) o'r enw Profi, Olrhain, Diogelu y GIG. Caiff yr ap ei ddefnyddio, ochr yn ochr ag olrhain cysylltiadau traddodiadol, i hysbysu defnyddwyr os byddant yn dod i gysylltiad â rhywun sy'n profi'n bositif am y coronafeirws yn ddiweddarach. Mwy o wybodaeth: Ap COVID-19 y GIG | LLYW.CYMRU 

Pàs COVID y GIG 
Defnyddio Pàs COVID y GIG i deithio’n rhyngwladol: Defnyddio Pàs COVID y GIG i deithio’n rhyngwladol | LLYW.CYMRU


Data Coronafeirws 
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data am achosion coronafeirws ledled Cymru yn: Coronafeirws - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) 


Llinell Gyngor Hawliau Lles 
Mae'r llinell gyngor ar hawliau lles yn darparu cyngor ar bob agwedd o fudd-daliadau ac mae'n agored i holl drigolion Conwy. Dydd Llun i ddydd Iau 9am tan 5pm a dydd Gwener 9am tan 4.45pm.  Ffoniwch 01492 576605 neu e-bostiwch hawliau.lles@conwy.gov.uk

Gwarchod y Preswylwyr Mwyaf Agored i Niwed 
Llywodraeth Cymru (diweddarwyd 04/08/22): Canllawiau ar ddiogelu pobl a ddiffinnir yn glinigol ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws (COVID-19) – y cynllun ‘gwarchod’ gynt | LLYW.CYMRU

Cymorth Ariannol
Cael help gyda chostau byw: Cael help gyda chostau byw | LLYW.CYMRU

 

 

Wedi ei bostio ar 18/03/2020

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content