Y Cyngor yn cyhoeddi noddwr newydd y Stadiwm
Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyhoeddi mai CSM Services Group yw partner masnachol newydd y stadiwm ym Mharc Eirias, Bae Colwyn.
Bydd y Stadiwm, sydd dros y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn lleoliad digwyddiadau cerddoriaeth mawr, ynghyd â chynnal gemau chwaraeon gan gynnwys gemau rhyngwladol dan 20, gemau RGC a gemau Croesgadwyr Gogledd Cymru yn ddiweddar, bellach yn cael ei galw’n Stadiwm CSM.
Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n bleser gennym ffurfio’r bartneriaeth hon, yn arbennig yn dilyn cyfnod anodd ar gyfer cerddoriaeth awyr agored a chwaraeon.
“Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn ystyried bob ffordd bosib o sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’n hadnoddau. Mae cyfleoedd noddi yn un o’r opsiynau sydd ar gael, a bydd y cydweithrediad hwn yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor ein stadiwm ragorol ac yn helpu i sicrhau llwyddiant parhaus.”
Lluniwyd y cytundeb 3 blynedd ar ôl cynnal ymarfer profi’r farchnad y llynedd. Er mwyn adeiladu ar lwyddiant y stadiwm, mae’n hanfodol bod gennym bartneriaeth busnes sy’n gallu cefnogi dyheadau parhaus y Cyngor ar gyfer y stadiwm.
Meddai Spencer Martin, Rheolwr Gyfarwyddwr CSM Services Group: “Rydym yn edrych ymlaen at noddi’r stadiwm gan ein bod wedi darparu gwasanaethau diogelwch ar gyfer rheoli digwyddiadau a thraffig mewn digwyddiadau mawr megis Tom Jones, Elton John, Lionel Richie, Brian Adams, Paloma Faith, Jessie J, Olly Murs, Taith Prydain a BBC Proms yn y Parc yn y stadiwm dros y blynyddoedd diwethaf.
“Felly, pan gawsom y cyfle i fod yn nawdd enwi ar gyfer y Stadiwm, roedd y buddion i’n busnes a’n datblygiad i’r dyfodol yn amlwg. Roedd yn teimlo fel cam naturiol i’n busnes, gan fod ein tîm wedi bod yn rhan o lwyddiant y stadiwm dros y ddegawd ddiwethaf. Rydym yn edrych ymlaen at gipio’r cyfle hwn a pharhau i weithio mewn partneriaeth gyda thîm rheoli’r stadiwm, a helpu i gefnogi’r twf dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd y brand Stadiwm CSM yn cael ei roi ar waith dros yr wythnosau nesaf, yn barod ar gyfer y cyngherddau ym mis Awst: Pete Tong a’r gerddorfa symffoni, a Simply Red.
Nodiadau:
Mae CSM Services Group yn cyflogi dros 85 o staff, wedi’u lleoli ym Modelwyddan ac yn darparu gwasanaethau ar draws Gogledd/Canolbarth Cymru a’r Gogledd Orllewin.
Bydd y Stadwim, sy’n un o nifer o gyfleusterau ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn bellach yn cael ei galw’n Stadiwm CSM.
Cyfeiriad post y stadiwm yw Stadiwm CSM, EIRIAS, Bae Colwyn, LL29 7SP.
Mae’n bwysig nodi nad yw Parc Eirias wedi cael ei ailenwi - bydd y parc a’i gyfleusterau a nodweddion yn cadw eu henwau presennol, gan gynnwys Canolfan Hamdden Colwyn; Ysgol Uwchradd Eirias; Canolfan Dennis James Alexander Barr.
Wedi ei bostio ar 17/06/2022