Gwaith haearn addurniadol yn cael ei osod
Mae’r gwaith yn parhau ar adeiladu pier newydd ym Mae Colwyn, gyda chontractwyr yn gosod y paneli gwaith haearn addurnol.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Cossey, Cadeirydd y Bwrdd Prosiect “Mae wedi bod yn ddifyr gweld y pier newydd yn ffurfio dros y misoedd diwethaf, ac mae’n gyffrous iawn gweld peth o’r gwaith haearn addurniadol yn cael ei osod.
“Mae cynghorwyr a swyddogion Conwy wedi gweithio’n galed dros sawl blwyddyn i gyrraedd y pwynt hwn ac rydym yn falch fod y prosiect yn dod yn ei flaen yn dda a’i fod yn agos at orffen.”
O’r 99 panel haearn addurniadol oddi ar yr hen bier, llwyddwyd i adfer 74 ohonynt a chânt eu defnyddio ar y pier newydd.
Mae’r holl bileri lampau wedi cael eu hadnewyddu hefyd, a dim ond eu seiliau a’u pen colofnau sydd wedi eu hail-fwrw (i’r dyluniad gwreiddiol).
Mae’r lliwiau ar gyfer y gwaith haearn addurniadol wedi eu cymryd o ganlyniadau dadansoddiad paent oedd yn dyddio’r cynllun lliwiau i 1934, a hynny’n cyfateb i adeiladu’r trydydd pafiliwn yn y flwyddyn honno.
Mae disgwyl i’r gwaith ar y pier newydd gael ei gwblhau erbyn diwedd y gwanwyn.
Wedi ei bostio ar 05/02/2021