Strategaeth Ddrafft y Rhaglen Cymorth Tai
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynhyrchu Strategaeth Ddrafft y Rhaglen Cymorth Tai ac yn gofyn am adborth. Mae’r Strategaeth yn nodi sut y bydd y Cyngor yn cefnogi pobl ddiamddiffyn sydd mewn risg o, neu’n profi digartrefedd i’w helpu i gadw eu cartrefi neu ddod o hyd i lety addas.
Gweledigaeth y Rhaglen yw defnyddio agwedd dull rhagweithiol mewn perthynas ag ymyrraeth gynnar ac atal digartrefedd. Lle na ellir atal digartrefedd, bydd yn helpu i sicrhau bod cymorth a/ neu lety ar gael.
Mae gweithredoedd y Rhaglen hon yn cael ei ariannu gan Grant Cynhaliaeth Tai Llywodraeth Cymru. Bwriad y Grant hwn y darparu ansawdd bywyd gwell i bobl ddiamddiffyn drwy eu cefnogi i gael mynediad a chadw cartref sefydlog ac addas a byw yn annibynnol.
Mae’r Strategaeth hon yn parhau tan 2026, ac yn dangos y gwaith yn nghyd-destun mentrau tai eraill y Cyngor, fel y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a gymeradwywyd yn ddiweddar, ynghyd â gweithio gyda sefydliadau partner.
Mae’r Cyngor yn gwadd sylwadau ar y strategaeth. Ewch i Ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft y Rhaglen Cymorth Tai - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 02/02/23.
Wedi ei bostio ar 17/01/2023