Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgynghoriad Strategaeth Drafft Adnoddau a Gwastraff
start content

Ymgynghoriad Strategaeth Drafft Adnoddau a Gwastraff

Recycling lorry

Ailgylchu

Gwahoddir preswylwyr a busnesau Conwy i roi eu safbwyntiau ynglŷn â dyfodol eu gwasanaethau ailgylchu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gofyn am adborth gan y cyhoedd am Strategaeth Gwastraff Ddrafft 2026-2031. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys adran ar gyfer safbwyntiau am wasanaethau ailgylchu presennol Conwy.

Bydd y Cyngor yn defnyddio adborth o’r ymgynghoriad i adolygu’r strategaeth ddrafft cyn ei chyflwyno i’r Cabinet i’w chymeradwyo. Pan gaiff ei chymeradwyo, bydd y strategaeth mewn grym ar gyfer gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu am y 5 mlynedd nesaf.

Gall preswylwyr a busnesau lleol weld y strategaeth ddrafft a rhoi eu hadborth ar-lein neu yn bersonol yng Nghoed Pella, neu gallant wneud cais am gopi papur gan Dîm Cynghori adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Conwy drwy anfon e-bost at affch@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575337.

Cynhelir yr ymgynghoriad o 24 Awst tan 5 Hydref 2026.

Ymgynghoriad Strategaeth Drafft Adnoddau a Gwastraff - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 24/08/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content