Annog gyrwyr i fod yn ddiogel o amgylch ceffylau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio gyda Diogelwch Ffyrdd Cymru i amlygu diamddiffynedd ceffylau a marchogion drwy ymgyrch sy’n atgoffa gyrwyr o’u cyfrifoldebau wrth rannu’r ffordd gyda cheffylau.
Mae posteri wedi cael eu gosod mewn 10 ardal wahanol o amgylch Sir Conwy er mwyn atgoffa gyrwyr i yrru’n araf a gadael digon o le wrth fynd heibio ceffylau, yn unol â Rheolau Diweddaraf y Ffordd Fawr.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd y Bartneriaeth, “Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn ddiolchgar i Gymdeithas Ceffylau Prydain am ddarparu data gwerthfawr trwy’r adran adrodd am ddigwyddiadau ar eu gwefan, bhs.org.uk. Mae hyn wedi helpu i sicrhau y gall y cyngor gael ei leoli lle mae ei angen fwyaf, mewn lleoliadau lle mae damweiniau yn digwydd fwyaf, yn ogystal ag ar lwybrau a ddefnyddir yn aml gan y gymuned marchogaeth.”
Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r ymgyrch hwn i helpu cadw marchogion a cheffylau yn ddiogel ar y ffyrdd.
“Mae’n bwysig bod gyrwyr, yn arbennig mewn ardaloedd mwy gwledig, yn ymwybodol bod ceffylau yn debygol o fod ar y ffordd a’u bod yn eu parchu drwy yrru’n araf a rhoi digon o le iddynt.”
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb dros Gludiant, Julie James: “Yn aml mae modurwyr angen cael eu hatgoffa o’r peryglon i geffylau a marchogion, yn arbennig wrth yrru ar ffyrdd gwledig yn ystod tymor y gwyliau ac rwy’n ddiolchgar i Ddiogelwch Ffyrdd Cymru am gyflwyno’r ymgyrch pwysig hwn.”
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn annog pobl i adrodd am ddigwyddiadau a damweiniau er mwyn ehangu’r wybodaeth am ddigwyddiadau mewn perthynas â cheffylau. Bydd cipio mwy o ddata cywir ar amlder a difrifoldeb digwyddiadau, yn helpu i ganfod tueddiadau a gellir ei ddefnyddio er mwyn amlygu a mynd i’r afael â’r risgiau sy’n wynebu marchogion ar y ffordd yn fwy effeithiol.
Gall ddigwyddiadau hefyd gael eu hadrodd yn gyflym gan ddefnyddio ffôn symudol neu ddyfais llechen, drwy’r ap BHS am ddim Horse i.
Mae lleoliadau’r arwyddion fel a ganlyn:
- Valley Road, Llanfairfechan
- Mountain Lane, Penmaenmawr
- Bwlch Sychnant, Conwy
- Meirion Drive, Conwy
- Ffordd Bryn Pydew, Pydew
- Derwen Lane ger Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn
- B5381 Moelfre, Betws yn Rhos, Abergele
- Ffordd Dolwen, Tan y Graig Road, Llysfaen
- Llechwedd, Conwy
- Tal y Cafn, Graig
Wedi ei bostio ar 01/12/2022