Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Sesiwn Galw Heibio

Sesiwn Galw Heibio


Summary (optional)
start content

Sesiwn Galw Heibio

Dyddiad: 4 Hydref 2022
Lleoliad: Coed Pella
Amser: 1pm - 4pm

Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Gwybodaeth i ymuno a’n tîm prysur ar y dderbynfa yng Nghoed Pella, prif swyddfa’r Cyngor ym Mae Colwyn.

Diddordeb? Dewch draw i sesiwn galw heibio ar 4 Hydref rhwng 1pm a 4pm. Dyma’ch cyfle i gwrdd â’n tîm cyfeillgar, gweld y swyddfeydd, a dysgu mwy ynglŷn â manteision gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â safon dda o addysg ac wedi ennill NVQ lefel 2 (neu gyfwerth), sgiliau TGCh da, a’r gallu i wrando a dangos empathi at eraill.  Hefyd, gan y byddwch yn ymdrin â’r cyhoedd bydd arnoch angen bod yn gyfforddus sgwrsio â chwsmeriaid yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Dewch â chopi o’ch CV gyda chi, a gadewch o leiaf hanner awr ar gyfer eich ymweliad.

I gael gwybod mwy, cysylltwch ag:

Andrew Saunders, Rheolwr Datblygu ar 01492 576047 neu andrew.saunders@conwy.gov.uk

Ann Morris, Arweinydd Tîm ar 01492 574000 neu ann.morris@conwy.gov.uk

Wedi ei bostio ar 21/09/2022

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content