Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion MAETHU CYMRU CONWY 'PYTHEFNOS GOFAL MAETH'

MAETHU CYMRU CONWY 'PYTHEFNOS GOFAL MAETH'


Summary (optional)
start content

MAETHU CYMRU CONWY 'PYTHEFNOS GOFAL MAETH'

Pam dewis Maethu Cymru Conwy?

Mae Tîm Maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn un o 22 o awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda’i gilydd fel Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw.

Mae Maethu Cymru yn credu mewn cydweithio, rhannu gwybodaeth ac adeiladu dyfodol i blant - gyda’n gilydd.

Meddai’r Cyng. Elizabeth Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu: “Rydym yn annog pobl i faethu gyda’u hawdurdod lleol. Mae Maethu Cymru Conwy yn rhan o Faethu Cymru, sefydliad dielw sydd wedi ymroi i’r plant yn ein gofal.

“Mae gan dîm Maethu Cymru Conwy gyfoeth o wybodaeth yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda theuluoedd ac ysgolion i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol. 

“Drwy faethu gyda’ch awdurdod lleol, rydych yn helpu plant lleol aros yn eu cymunedau. Fel eu bod yn aros mewn lle cyfarwydd o bosibl a bod yr acen, ysgol, iaith, ffrindiau a gweithgareddau’n gyfarwydd i’w cadw wedi cysylltu, i feithrin sefydlogrwydd a hyder.

“Adeiladu dyfodol gwell i blant lleol yw’r peth pwysicaf un.”

Pythefnos Gofal Maeth yw’r ymgyrch godi ymwybyddiaeth fwyaf yn y DU ar gyfer maethu, a ddarperir gan elusen faethu flaenllaw, y Rhwydwaith Maethu. Fe’i cynhelir o ddydd Llun 15 Mai i ddydd Sul 28 Mai 2023 a’r thema eleni yw #MaethuCymunedau.

Mae Maethu Cymru Conwy yn dathlu’r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi’i wneud i fywydau plant yn Sir Conwy.

Meddai Prif Weithredwr Conwy, Rhun ap Gareth: “Mae’n cymryd rhywun arbennig iawn i fod yn ofalwr maeth. Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd plentyn drwy ddarparu amgylchedd diogel a gofalgar ble gall plentyn ddatblygu a ffynnu. Mae’n swydd mor bwysig, ond yn llawn boddhad hefyd, gan wneud i blentyn deimlo’n ddiogel a gwerthfawr.

“Diolch i bob teulu maeth am bopeth rydych yn ei wneud bob dydd.”

Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am bob plentyn sydd angen gofal maeth. Mae gofalu am blant a phobl ifanc a’u hamddiffyn yn un o’r pethau pwysicaf mae cynghorau’n ei wneud.  Pan fydd plentyn yn methu aros yn ei gartref yn ddiogel, am ba bynnag reswm, gwaith yr awdurdod lleol yw camu i’r adwy a rhoi’r gofal, cymorth a sefydlogrwydd maent yn ei haeddu. 

Meddai Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru: “Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru helpu.

“Rydym yn gwybod ein bod yn gweld canlyniadau gwell wrth i blant aros mewn cyswllt, aros yn lleol a bod â rhywun sy’n aros gyda nhw yn yr hirdymor.”

Y Penwythnos Gofal maeth hwn, mae Maethu Cymru Conwy eisiau annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth i’w hawdurdod lleol. Eleni mae Maethu Cymru yn hyrwyddo 10 rheswm i fod yn ofalwyr maeth gyda’ch awdurdod lleol, er mwyn i blant allu aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a’u teulu ac aros yn eu hysgol.

Mae angen miloedd o deuluoedd maeth bob blwyddyn i ofalu am blant yng Nghymru. Mae’r angen mwyaf ar gyfer plant hŷn, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anableddau.

I gael gwybod sut y gallwch faethu gyda Maethu Cymru Conwy, ewch i https://fosterwales.secure.conwy.gov.uk/static/cy/

I ddysgu mwy am Bythefnos Gofal Maeth, ewch i www.thefosteringnetwork.org.uk/

Wedi ei bostio ar 16/05/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content