Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canolbwyntio ar Ofalwyr Conwy yn ystod Wythnos Gofalwyr 8 - 14 Mehefin 2026

Canolbwyntio ar Ofalwyr Conwy yn ystod Wythnos Gofalwyr 8 - 14 Mehefin 2026


Summary (optional)
start content

Canolbwyntio ar Ofalwyr Conwy yn ystod Wythnos Gofalwyr 8 - 14 Mehefin 2026

Wythnos Gofawyr

Wythnos Gofawyr 2026

Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle i gydnabod cyfraniad gofalwyr di-dâl Conwy dros y flwyddyn a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae’r tîm gofalwyr yn gwahodd gofalwyr i sesiynau galw heibio yng Nghoed Pella, Bae Colwyn ar 10 ac 11 Mehefin rhwng 11:30am a 1:30pm.  Bydd cyfle i sgwrsio â staff a darganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, p’un a ydych yn gofalu am oedolyn neu blentyn, neu’n ofalwr ifanc. 

Mae ystod eang o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor yn ymwneud ag Wythnos Gofalwyr yn Wythnos Gofalwyr - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gyfer gofalwyr ar wefan y Cyngor: tudalennau we gofalwyr.
Neu, gallwch gysylltu â’r tîm Lles Cymunedol ar 01492 577449 neu ebostiwch Arosyniach@conwy.gov.uk 

 

 

Wedi ei bostio ar 08/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?