Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Foster Wales 'Time is Right'

'Nawr yw'r Amser' Maethu Cymru


Summary (optional)
start content

'Nawr yw'r Amser' Maethu Cymru

Mewn cyfres newydd sbon o vlogiau, mae gofalwyr maeth o bob rhan o Gymru wedi dod at ei gilydd i archwilio’r rhesymau, profiadau bywyd a newidiadau a arweiniodd at ddod yn ofalwyr.

Bydd y gyfres chwe phennod yn galluogi darpar ofalwyr maeth i gydnabod y profiadau bywyd gwerthfawr sydd ganddynt eisoes, a allai eu helpu i ddod yn ofalwyr maeth cyflawn a chefnogol yn eu cymunedau.

Mae’r gyfres wedi’i chynhyrchu gan Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw, sy’n cynnwys y 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bydd y penodau’n cael eu rhyddhau’n wythnosol ar wefan Maethu Cymru, cyfryngau cymdeithasol a sianeli YouTube, ac yn darparu sgwrs onest ac agored rhwng gofalwyr maeth o bob cefndir.

Recordiwyd y sgyrsiau ym mis Rhagfyr 2022, gyda’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd profiadol Mai Davies yn cynnal y sgyrsiau.

Dywed Cath o Sir Ddinbych ei bod yn ymwybodol bod gan rai pobl syniad yn eu pen o sut olwg sydd ar ofalwr maeth.

“Rwy’n meddwl bod canfyddiad pobl o fod yn ofalwr maeth yn rhywbeth nad ydyn nhw.

“Mae llawer o bobl yn dweud pan fyddwch chi allan, 'Byddwn i wrth fy modd yn bod yn ofalwr maeth ond dwi ddim yn siŵr' ac rydw i bob amser yn dweud, ffoniwch i ofyn, fydd neb byth yn curo ar eich drws yn gofyn os ydych am fod yn ofalwr maeth.

“Mae rhai o’r plant hyn wedi cael profiadau erbyn eu bod yn 5 oed na fydd pobl byth yn eu cael yn eu bywydau, a’r cyfan sydd ei angen yw cael yr empathi, y ddealltwriaeth a’r agwedd anfeirniadol honno.”

Yn y cyfamser dechreuodd Jenny o Sir y Fflint faethu pan oedd yn 66 oed ar ôl i'w gŵr farw, ar ôl meddwl i ddechrau y gallai fod yn rhy hen.

Nawr, mae Jenny yn meddwl bod gan ei hoedran fanteision wrth faethu.

“Lle dw i’n byw, bydd y plant ar y stryd yn chwarae gyda’r plant sy’n dod ata i, a byddan nhw’n dweud, ‘ai dy Nain di yw honna?’ Ac wrth gwrs, maen nhw’n dweud ie achos mae’n haws, does dim rhaid iddynt ddweud; wel na mewn gwirionedd hi yw fy ngofalwr maeth ac mae hi'n gofalu amdana i, oherwydd mae hynny'n lletchwith.

“Maen nhw'n fy ngweld i fel rhyw fath o ffigwr tebyg i nain, ac rydw i'n eu difetha nhw dipyn oherwydd dyna beth yw pwrpas mam-gu.”

Mae Jenny hefyd yn siarad yn gynnes am lefel y cymorth sydd ar gael gan yr awdurdod lleol a hefyd y gymuned gofal maeth.

“Dydy pobl ddim yn deall lefel y gefnogaeth, nid yw’n ymwneud â gweithwyr cymdeithasol yn eich cefnogi yn unig, mae’n ymwneud â gofalwyr maeth eraill yn eich cefnogi oherwydd eich bod yn gwneud ffrindiau yn y gymuned.”

“Bydd pobl eraill sydd â phrofiadau gwahanol yn gallu eich cynghori ar sut i weithio gyda phlant penodol oherwydd eu bod wedi cyfarfod â phlant tebyg o’r blaen.”

Mae David a’i wraig o Sir Conwy wedi bod yn maethu i Maethu Cymru Conwy ers 10 mlynedd. Mae’n teimlo ei fod ar gam yn ei fywyd lle’r oedd yn pendroni beth i’w wneud nesaf, ac mae’n teimlo bod maethu wedi rhoi teimlad o foddhad iddo.

Meddai David:

“Yn gyffredinol, wrth edrych yn ôl dros y 10 mlynedd, mae wedi gwella fy mywyd, mae hynny’n sicr.

“Mae llawer o adegau drwg, ond mae llawer o adegau da hefyd.

“Dwi wir yn credu eich bod chi’n gofalu am blant sydd angen rhywun, fel mae pob plentyn. Mae angen ein help arnynt, does dim dwywaith am hyn. Dw i’n dal i gael teimlad da o wneud hyn.

“Roeddem yn gofalu am hogyn bach, a meddyliais y byddwn i’n mynd â fo i chwarae gêm tîm, felly es â fo i chwarae rygbi, a fo oedd un o’r chwaraewyr gorau yn y tîm yn y pen draw. Dywedodd yr hyfforddwr fod yr hogyn yn gaffaeliad mawr i’r tîm, ac ro’n i’n teimlo’n falch mai fi aeth ag o yno, fi blannodd yr hadyn yna.

“Os oes rhywun am roi cynnig arni neu’n meddwl gwneud, byddwn i’n bendant yn dweud ‘ewch amdani’. Gofynnwch i’ch awdurdod lleol am wybodaeth cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae bod yn ofalwr maeth yn rhoi mwynhad imi, a fedra i ddim meddwl am ddim byd arall y byddai’n well gen i ei wneud. Dw i wrth fy modd efo maethu.”

Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:

“Mae gennym ni ofalwyr maeth o bob cefndir yn gofalu am ein plant o fewn Maethu Cymru.

“Rydym angen pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau ac sydd ag amrywiaeth o brofiadau bywyd i faethu oherwydd mae gennym ystod amrywiol o blant sydd angen y gofal, y gefnogaeth a’r cariad hwnnw o fewn ein hawdurdodau lleol - plant sydd angen y cyfle i ffynnu ac aros yn eu cymunedau lleol eu hunain. Dyna hanfod maethu ar gyfer eich awdurdod lleol.

P'un a ydych wedi meddwl am faethu yn ddiweddar neu am y deng mlynedd diwethaf, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n cysylltu â'ch tîm Maethu Cymru lleol. Byddwn yn eich helpu i ystyried ai nawr yw'r amser i chi a byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd ar hyd eich taith faethu."

I ddarganfod mwy am faethu yng Nghymru, ewch i https://maethucymru.llyw.cymru/

Wedi ei bostio ar 24/01/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content