Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Flynyddoedd 7 ac 8
start content

Cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Flynyddoedd 7 ac 8

School Canteen Creuddyn

Prydau ysgol

Yn dechrau gyda phlant blynyddoedd 7 ac 8, mae Llywodraeth Cymru yn ehangu ei rhaglen prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd o aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, heb feini prawf incwm.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cynnig hwn.

Os ydych chi eisoes wedi derbyn cadarnhad eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, does arnoch chi ddim angen gwneud unrhyw beth.

Os nad ydych chi wedi derbyn cadarnhad ond eich bod yn credu bod eich plentyn yn gymwys, ewch i wefan y Cyngor i wneud cais er mwyn i ni asesu’ch cymhwysedd – www.conwy.gov.uk/ehanguprydauysgolamddim - neu ffoniwch y tîm Budd-daliadau ar 01492 576491.

Bydd disgyblion cymwys yn dechrau cael prydau ysgol am ddim ar 2 Tachwedd 2026.

Rydym ni’n annog preswylwyr i wirio a ydyn nhw’n cael y budd-daliadau lles sy’n ddyledus iddyn nhw. Gall y tîm Hawliau Lles gynnal gwiriad budd-daliadau am ddim i weld pa gymorth ariannol y gallwch chi ei hawlio – www.conwy.gov.uk/hawliaulles

 

Mae’r cynnig Prydau Ysgol am Ddim wedi’i ehangu i ddisgyblion cymwys ym mlynyddoedd 7 ac 8.

Wedi ei bostio ar 30/10/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content