Ymgynghoriad Casgliadau Gwastraff Gardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gofyn i drigolion roi eu barn ynglŷn a chodi ffi am gasglu gwastraff gardd.
Rydym yn gofyn i breswylwyr roi eu barn ynglŷn â chodi tâl am gasglu gwastraff o’r ardd.
Mae gan Awdurdodau Lleol hawl i godi tâl am gasglu gwastraff o erddi preswylwyr ac mae llawer o gynghorau eisoes yn gwneud hynny, gan gynnwys Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae’r gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff o’r ardd yn costio £620,000 y flwyddyn i’r Cyngor ar hyn o bryd a byddem yn disgwyl i’r ffigwr hwn godi y tro nesaf y bydd y gwasanaeth yn mynd allan i dendr. Ni allwn fforddio’r gwasanaeth hwn bellach ac rydym yn ystyried naill ai terfynu’r gwasanaeth neu godi tâl ar breswylwyr i dalu’r costau yn rhannol neu’n gyfan gwbl.
Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor ac mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Bydd y Cyngor hefyd yn dosbarthu nifer cyfyngedig o gopiau papur i dai a ddewiswyd ar hap.
Y dyddiad cau i drigolion roi eu barn yw 5 Ebrill. Yna gwneir penderfyniad ar ddyfodol y gwasanaeth.
Wedi ei bostio ar 14/03/2019