Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Getting young people involved in democracy

Annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth


Summary (optional)
start content

Annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gofyn i bobl ddewis dyluniad ar gyfer cerdyn pen-blwydd i’w anfon at bobl ifanc i’w hannog i bleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth. 

Mae’r Cyngor yn cysylltu gyda phobl ifanc pan fyddant yn cyrraedd cerrig milltir arbennig; 14, 16 ac 18 oed, i’w hatgoffa y gallant ddechrau cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy gofrestru i bleidleisio.  Golyga hyn y byddant yn barod ac yn ymwybodol o’u hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol pan fyddant yn 16 oed.  Mae’n ofyniad cyfreithiol i gofrestru i bleidleisio. 

Diolch i gyllid grant, mae Conwy bellach yn gallu annog pobl ifanc yn y sir i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy anfon cardiau pen-blwydd i’w hatgoffa i gofrestru a chodi ymwybyddiaeth am eu hawliau.  Mae’r Cyngor yn gofyn i’r cyhoedd ddewis dyluniad y cardiau.  Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill dau docyn ar gyfer cyngerdd N-Dubz ar 22 Gorffennaf 2023 yn Stadiwm CSM, Bae Colwyn. Byddwn yn cyhoeddi’r enillwyr ar 30 Mehefin 2023.

Meddai’r Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Democratiaeth a Llywodraethu Conwy, “Mae’r cardiau hyn yn amlygu’r oedran cyfreithiol ar gyfer pleidleisio.  Mae cyrraedd yr oed i fedru cofrestru i bleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth yn garreg filltir bwysig ym mywydau pobl ifanc.   A thrwy ymgysylltu â phobl ifanc yn gynnar, byddwn yn ennyn eu diddordeb mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol ac yn cefnogi gwleidyddion y dyfodol”.

“Ar lefel genedlaethol a lleol, caiff y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am gymunedau lleol eu hethol gan fod pobl yn pleidleisio amdanynt. Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio er mwyn gallu defnyddio eich pleidlais i ddweud eich dweud ynghylch pwy hoffech i’ch cynrychioli.”

Gall cofrestru i bleidleisio hefyd fod yn bwysig fel rhagofyniad ar gyfer nifer o bethau, megis adeiladu sgôr credyd, ymgeisio am fenthyciadau neu forgais a hyd yn oed contract ffôn symudol.

Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â’r adran Pobl Ifanc a Democratiaeth ar wefan y Cyngor: Pobl Ifanc a Democratiaeth - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Wedi ei bostio ar 15/05/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content