Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Penwythnos CymunedolTramffordd y Gogarth 2026

Penwythnos CymunedolTramffordd y Gogarth 2026


Summary (optional)
start content

Penwythnos CymunedolTramffordd y Gogarth 2026

Great Orme Tramway 2026

Tramffordd y Gogarth

Mae Tramffordd y Gogarth yn cynnal ei 7fed Penwythnos Cymunedol ddydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Medi.

Gall preswylwyr sir Conwy fyd ar y Dramffordd am hanner pris, gan ddefnyddio gostyngiad unigryw i drigolion lleol.

Bob blwyddyn, mae’r atyniad llwyddiannus hwn yn cario tua 200,000 o bobl o bob cwr o’r byd i ymweld â Phen y Gogarth. Dyma’r unig dramffordd yn y DU sy’n cael ei thynnu gan geblau ar hyd ffordd gyhoeddus, ac mae’n un o dair yn unig sydd ar ôl yn y byd.

Dywedodd Luke, Rheolwr y Dramffordd: “Mae’r Penwythnos Cymunedol wedi dod yn draddodiad ac mae’n un o’n hoff ddyddiau o’r tymor.”

“Wrth fyw yng Nghonwy, gall fod yn hawdd cymryd y golygfeydd a’r atyniadau yn ganiataol. Rydym wrth ein boddau’n gweld pobl leol yn mwynhau’r atyniad hanesyddol unigryw hwn sydd ar garreg ein drws. ”

Bydd tocynnau dwyffordd i drigolion lleol ar y Penwythnos Cymunedol yn £5.63 i oedolion a £4.03 i blant rhwng 3 ac 16 oed. Gall plant dan dair oed deithio am ddim a bydd cŵn sy'n ymddwyn yn dda yn cael eu tocyn dwyffordd eu hunain am £1.55.

Bydd angen i drigolion ddod â phrawf o'u cyfeiriad yn Sir Conwy i fod yn gymwys ar gyfer y cynnig.

Mae’r Dramffordd ar agor o 10am tan 6pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Bydd y tram olaf yn gadael y copa am 5:40.

Wedi ei bostio ar 22/09/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content