Cyfle i chi leisio'ch barn am gynlluniau ar gyfer canol tref Bae Colwyn
Bydd gwelliannau arfaethedig i ganol tref Bae Colwyn yn cael eu datgelu i’r cyhoedd wrth i ymgynghoriad 4 wythnos gychwyn ar 17 Hydref.
Gwahoddir y cyhoedd i archwilio’r cynlluniau a chyflwyno eu barn am y cynigion, sy’n cynnwys gwell palmentydd a phlannu coed a phlanhigion, llwybrau beicio a cherdded, meysydd parcio a lleihau effaith ceir.
Bydd y cynlluniau ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Coed Pella ym Mae Colwyn, ddydd Gwener, 27 Hydref rhwng 1.30pm a 6.30pm. Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefan y Cyngor.
Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Isadeiledd: “Dyma gyfle i drigolion a busnesau leisio eu barn am y cynlluniau hyn er mwyn gwella mynediad o amgylch canol tref Bae Colwyn. Rydym yn awyddus i wella mannau cyhoeddus a’i gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl symud o gwmpas, gan ddarparu cyfleoedd economaidd ar gyfer busnesau lleol. Byddwn yn annog pobl i dreulio rhywfaint o amser yn archwilio’r cynlluniau hyn a lleisio eu barn.”
I gael mwy o wybodaeth ac i gyflwyno eich barn, ewch i:
Ymgynghoriad Adfywio Canol Tref Bae Colwyn a Teithio Llesol - Ynglŷn â'r prosiect - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Os nad oes gennych chi gysylltiad â’r rhyngrwyd, ffoniwch (01492) 575337 i gael copi o’r pecyn ymgynghori.
Cymrwch ran a chyflwynwch eich barn erbyn 14 Tachwedd 2023.
Wedi ei bostio ar 19/10/2023