Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Strategaeth Tai ar gyfer Sir Conwy i'w thrafod gan Gynghorwyr

Strategaeth Tai ar gyfer Sir Conwy i'w thrafod gan Gynghorwyr


Summary (optional)
start content

Strategaeth Tai ar gyfer Sir Conwy i'w thrafod gan Gynghorwyr

Housing Strategy document cover with no wording

Strategaeth Tai a Digartrefedd Ddrafft

Gofynnir i Gynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ystyried Strategaeth Tai a Digartrefedd Ddrafft ar gyfer 2026 i 2031 mewn cyfarfodydd dros yr ychydig wythnosau nesaf, a rhoi caniatâd ar gyfer ymgynghoriad â'r cyhoedd.

Mae'r Strategaeth yn nodi'r weledigaeth i sicrhau bod, “gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywyd, a bod digartrefedd yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.”

Mae'n amlinellu cynllun pum mlynedd i fynd i'r afael â'r heriau tai sy'n wynebu Sir Conwy, atal digartrefedd, a helpu i greu cymunedau cynaliadwy.  Mae'r nodau hyn ar gyfer tai wrth wraidd un o nodau Cynllun Corfforaethol y Cyngor.

Mae'r Strategaeth ar gyfer 2026–2031 yn adeiladu ar gyflawniadau sylweddol fersiwn flaenorol y Cyngor a gefnogwyd, dros gyfnod y pum mlynedd diwethaf, gyda dros £65 miliwn a sicrhawyd o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.  Defnyddiwyd y cyllid hwn i ddatblygu tai fforddiadwy newydd.  Bu'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a budd-ddeiliaid allweddol eraill i ddarparu'r cartrefi hyn, gan sicrhau datblygiadau cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion tai lleol.

Yn ogystal, rhwng 2018/19 a 2024/25, daethpwyd â 294 o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, a gwnaed 56 ohonynt ar gael i deuluoedd sydd angen cartrefi fforddiadwy, a chefnogwyd dros 3,000 o aelwydydd gan dîm tai profiadol y Cyngor a'i bartneriaid i atal neu ddatrys digartrefedd.  Roedd addasiadau tai a wnaed i 713 o eiddo hefyd yn golygu bod preswylwyr ag anableddau yn gallu aros yn eu cartrefi.

Nawr, mae'r Strategaeth ar gyfer 2026–2031 yn nodi blaenoriaethau allweddol i barhau â'r gwaith hwn.  Bydd pum cynllun yn cefnogi'r strategaeth: ymdrechu i wneud y mwyaf o argaeledd tai fforddiadwy; defnyddio’r adnodd coll o gartrefi gwag unwaith eto; defnyddio Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac i wella mynediad at wasanaethau cefnogaeth; gweithio ar gyflenwad tai'r sector preifat; ac atal digartrefedd.  Bydd Cynlluniau Gweithredu yn monitro cynnydd ac yn ysgogi cyflawni'r Strategaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Price, yr Aelod Cabinet Tai, “Mae mynediad at gartrefi diogel a fforddiadwy ledled Sir Conwy yn hanfodol i iechyd, lles a gwytnwch cymunedol. Mae'r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni newid gwirioneddol i bobl yng Nghonwy.”

Mae'r Strategaeth wedi'i llunio gyda mewnbwn gan amrywiaeth o sefydliadau partner gan gynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, landlordiaid preifat, ac, yn bwysicaf oll, gydag adborth gan unigolion a theuluoedd sy'n rhannu eu profiadau o dai a digartrefedd.  Os bydd Cynghorwyr yn cymeradwyo'r Strategaeth Ddrafft, gofynnir i'r cyhoedd roi eu barn ar y ddogfen mewn ymgynghoriad.

Bydd y Strategaeth Ddrafft yn cael ei thrafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle ar 21 Ionawr 2026 (Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle Dydd Mercher 21 Ionawr 2026, 5.30 pm), ac yna'r Cabinet ar 27 Ionawr 2026 (Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 27 Ionawr 2026, 2.00 pm), ac os cytunir, bydd yr ymgynghoriad â'r cyhoedd yn digwydd yn y misoedd nesaf.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am dai, a'r gwasanaethau a'r gefnogaeth y gall Tîm Tai'r Cyngor eu darparu, ar wefan y Cyngor Tai - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Wedi ei bostio ar 15/01/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?