Codi Sbwriel gan Glwb Ieuenctid Bae Cinmel
Yn ddiweddar bu i bobl ifanc sy’n mynd i Glwb Ieuenctid Bae Cinmel gymryd rhan mewn ymgyrch codi sbwriel yn yr ardal.
Mae’r 10 sydd rhwng 10 ac 14 oed yn mynd i glwb ieuenctid yn wythnosol i gymryd rhan mewn gweithgareddau megis celf a chrefft, sesiynau coginio a bwyta, cwisiau a gemau, heriau tîm, nosweithiau ffilm ac ymgynghoriadau.
Bu iddynt benderfynu cymryd rhan wrth godi sbwriel yn y gymuned ar noson y clwb ieuenctid fel rhan o fenter ar y cyd gyda Chreu Menter a Chartrefi Conwy. Darparwyd offer gan y Cydlynydd Cyfleusterau Cymunedau yn Creu Menter a Chartrefi Conwy, Ami Jones, a threfnwyd pizza i bawb hefyd!
Dywedodd Julie Fallon, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Ieuenctid: “Mae’n wych gweld pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel hyn, gan gymryd balchder yn ble maent yn byw a helpu i wneud eu cymuned yn lle taclusach a mwy diogel.
Casglwyd a gwaredwyd â chyfanswm o 26 bag o sbwriel.
I wybod mwy am Wasanaeth Ieuenctid Conwy ewch i wefan y Cyngor Gwasanaeth Ieuenctid Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 11/05/2023