Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd

Awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd i hybu'r nifer o ofalwyr maeth yng Nghymru


Summary (optional)
start content

Awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd i hybu'r nifer o ofalwyr maeth yng Nghymru

AWDURDODAU LLEOL YN DOD AT EI GILYDD I HYBU'R NIFER O OFALWYR MAETH YNG NGHYMRU GAN FOD DROS DRAEAN (39%) O OEDOLION CYMRU YN HONNI EU BOD WEDI YSTYRIED MAETHU

Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dod ynghyd heddiw i ddod yn 'Maethu Cymru', wrth i dimau ledled y wlad gyfuno eu hymdrechion ac arbenigedd i gynyddu nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn sylweddol.

Er bod dros draean (39%) o oedolion Cymru yn honni eu bod wedi ystyried dod yn ofalwr maeth, mae yna dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn i gadw i fyny gyda'r nifer o blant sydd angen gofal a chefnogaeth, ac i ddod o hyd i ofalwyr newydd i ddisodli’r rhai sy'n ymddeol neu sy'n gallu darparu cartref parhaol i blant.

Mae'r rhwydwaith cenedlaethol newydd, 'Maethu Cymru', yn dwyn ynghyd y 22 o dimau maethu nid-er-elw mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Gyda degawdau o brofiad, maent yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd i gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.

Yn lansio Maethu Cymru, dywedodd Julie Morgan MS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae'n ffantastig i fod yn lansio Maethu Cymru. Rwy'n gwybod o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werthfawr y gall faethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy'n derbyn gofal a chaniatáu timau maethu a recriwtio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i feddwl yn fwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol."

"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau'r nifer o blant mewn gofal, gan roi gwell canlyniadau i blant sydd wedi profi gofal ac, yn bwysig, cael gwared ar yr elfen elw mewn perthynas â phlant mewn gofal. Mae Maethu Cymru yn rhan o'r broses o gyflawni'r addewid hwn a bydd yn creu mwy o gyfle i blant aros yn eu cymuned ac yn diwallu anghenion esblygiadol plant maeth a'r bobl sy'n eu maethu."

Ledled Cymru, mae pob plentyn y mae angen gofalwr maeth arno yng ngofal ei awdurdod lleol, felly bydd ffurfio perthnasau yn barhaus o fewn eu cymunedau lleol yn helpu Maethu Cymru i alluogi plant i aros yn eu hardal leol pan dyna’r peth iawn ar eu cyfer.

Mae timau awdurdodau lleol eisoes yn rhannu gwybodaeth drwy gyswllt rheolaidd, ond mae ychydig dros chwarter (26%) o oedolion yng Nghymru yn camgymryd nad yw gwasanaethau maethu a ddarperir gan gynghorau yn debygol o fod wedi'u cysylltu’n dda â'i gilydd ledled y wlad.  Mae'r penderfyniad i uno'r 22 o wasanaethau maethu mewn awdurdodau lleol o dan yr enw Maethu Cymru felly yn ceisio sicrhau a gwneud chwarae teg i'r gwaith Cymru gyfan sy'n cael ei gynnal.

Dywedodd Cynghorydd Cheryl Carlisle, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol a Diogelu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Bydd cynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth sy'n cael eu recriwtio'n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn sylweddol yn ein galluogi i gael mwy o ddewis wrth baru plentyn, ac mae dod o hyd i'r teulu maeth iawn ar gyfer pob plentyn yn allweddol i'n nod terfynol o adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant yn ein gofal.

"Yn y mwyafrif o achosion, mae dod o hyd i gartrefi maeth ar gyfer plant sy'n eu cadw yn eu hardal leol o fudd mawr. Mae'n eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol a'u synnwyr o hunaniaeth. Mae'n adeiladu hyder ac yn lleihau straen. Mae gweithio gyda Maethu Cymru yn golygu cynnig y cartref lleol iawn i blentyn sydd angen y cyfle hwnnw a chael y cymorth a hyfforddiant arbenigol lleol sydd eu hangen i roi'r sgiliau i ofalwyr maeth ar gyfer y daith o'u blaenau."

Dywedodd Tanya Evans, aelod o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru sy’n Bennaeth Gwasanaethau Plant, "Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant. Mae yna gannoedd o blant ledled Cymru ar hyn o bryd sydd â hawl i ffynnu ac mae arnynt angen rhywun yn eu cymuned i'w cefnogi a chredu ynddynt.

"Mae chwalu'r mythau ynghylch gofal maeth yn dasg allweddol. Er enghraifft, nid oes yr un dau blentyn yr un fath ac nid yw'r gofal maeth sydd ei angen arnynt chwaith. Nid oes teulu maeth 'nodweddiadol'.

"P'un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu'n rhentu, p'un a ydych wedi priodi neu'n sengl. Beth bynnag fo’ch rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc yn eich cymuned sydd angen rhywun i’w cefnogi.

"Yr oll sydd ei angen arnom yw mwy o bobl fel chi i agor eu drysau a'u croesawu nhw i mewn."

Am fwy o wybodaeth am faethu mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru / fosterwales.gov.wales 

Wedi ei bostio ar 15/07/2021

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy