Dysgwch fwy am Gynllun Preswylio'r UE a sut i wneud cais – digwyddiad cyhoeddus yn Wrecsam ar 9 Mai 2019
Ar ran y Swyddfa Gartref
Cynllun Preswylio’r UE digwyddiad dinasyddion yr UE/AEE/Swisaidd - WRECSAM
Mae Cynllun Preswylio’r UE nawr ar agor ar gyfer ceisiadau gan ddinasyddion o’r UE, AEE a Swisaidd sy’n byw yn y DU.
Mae Llywodraeth EM wedi rhoi rhaglen ymgysylltu helaeth mewn grym gyda llywodraeth leol, cyflogwyr a grwpiau trydydd sector i sicrhau fod holl ddinasyddion yr UE yn cael eu hysbysu ynglŷn â sut y bydd Cynllun Preswylio’r UE yn amddiffyn eu hawliau i fyw a gweithio yn y DU ar ôl i ni adael yr UE a sut i ymgeisio.
Fel rhan o hyn mae'r Llywodraeth yn gwahodd dinasyddion o'r UE/AEE/Swisaidd i ddigwyddiad yn Wrecsam ddydd Iau, Mai 9 sy'n rhoi gwybodaeth am y Cynllun Preswylio'r UE ac a gaiff ei gynnal gan swyddogion y Swyddfa Gartref.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys:
• Trosolwg o’r Cytundeb Preswylio'r UE
• Cefnogaeth i ddinasyddion diamddiffyn
• Y broses ymgeisio / sut i ymgeisio
• Gwiriadau hawl i weithio
• Sefyllfa lle nad oes cytundeb
• Holi ac ateb
Dyma’r manylion am yr amser, y dyddiad a'r lleoliad:
- 3:30yh-5yh dydd Iau 9 Mai
- Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam, Cymru LL13 8BY
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Swyddfa Gartref
Wedi ei bostio ar 02/05/2019