Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cronfa Ffyniant Bro

Cronfa Ffyniant Bro


Summary (optional)
start content

Cronfa Ffyniant Bro

Ar 19 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y cynigion llwyddiannus ar gyfer ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro, bu i ni gyflwyno tri chynnig ac roedd ein Cynnig Cludiant - o’r Arfordir i’r Dyffryn yn llwyddiannus.

Mae Cynnig Cludiant Sir Conwy - o’r Arfordir i’r Dyffryn yn cynnwys tri rhan er mwyn dechrau rhaglen o fuddsoddiad mewn Llwybr Teithio Llesol o’r Arfordir i’r Dyffryn a gwella cysylltiadau cludiant yn Nyffryn Conwy.  

Bydd y llwybr ar gyfer cynllun Glan Conwy i Gyffordd Llandudno yn cysylltu’r ddwy gymuned â llwybr cerdded a beicio a rennir, gyda chysylltiadau ymlaen i Dref Conwy a Llandudno.   Mae’r ymgynghoriad ar restr fer o opsiynau yn dechrau’r wythnos hon, un opsiwn sy’n cael ei gynnig yw creu llwybr dros bont sy’n mynd dros y rheilffordd a chreu llwybr trwy warchodfa’r RSPB. Bydd y cynllun yn ffurfio adran fwyaf gogleddol Llwybr Teithio Llesol o’r Arfordir i’r Dyffryn.

Ar ochr ddeheuol Llwybr Teithio Llesol o’r Arfordir i’r Dyffryn y mae’r ail ran sy’n cysylltu Llanrwst â Betws-y-coed.   Prif elfen y cynllun hwn yw creu croesfan afon gwell ar gyfer cerdded a beicio ym Metws-y-coed. Mae’r bont droed bresennol yn y lleoliad hwn (Pont y Soldiwr) ar gau ar hyn o bryd am resymau diogelwch.   Fel y cynllun i’r gogledd, bydd y prosiect hwn yn gatalydd allweddol ar gyfer agor adran ddeheuol Llwybr Teithio Llesol o’r Arfordir i’r Dyffryn.  

Y drydedd ran yw Ffyrdd Cydnerth Trefriw. Yn ystod llifogydd mawr gall fod yn anodd cyrraedd Trefriw a bydd y prosiect hwn yn darparu llwybr amddiffyn rhag llifogydd i mewn ac allan o’r pentref.   Mae’r opsiynau sy’n cael eu hystyried yn cynnwys codi lefelau’r ffyrdd, darparu amddiffynfeydd rhag llifogydd a systemau draenio gwell.

Dywedodd y Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym yn falch bod ein cynnig Cludiant wedi bod yn llwyddiannus. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o baratoi a chyflwyno ein cynigion am eu gwaith caled o fewn terfynau amser tynn iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o fanylion am y cynnig, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r cynghorwyr i’w ystyried.” 

 

Mwy o wybodaeth: Cyllid Llywodraeth y DU - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 26/01/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content