Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Diweddariad Gwasanaethau Llyfrgell

Diweddariad Gwasanaethau Llyfrgell


Summary (optional)
start content

Diweddariad Gwasanaethau Llyfrgell

O ddydd Llun, 7 Medi, gall cwsmeriaid wneud apwyntiad i ymweld â llyfrgelloedd ardal Abergele, Conwy neu Llanrwst i ddewis llyfrau.

Bydd y gwasanaeth ar gael yn fuan yn llyfrgelloedd Llandudno a Bae Colwyn, ac yna yn y llyfrgelloedd cymunedol.

Dywedodd y Cyng Dr Mark Baker, Aelod Cabinet Conwy dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Diwylliant, “Rwy’n falch ein bod yn gallu parhau gyda'r broses o ailagor y gwasanaethau llyfrgell, cam wrth gam. Rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw’r gwasanaethau llyfrgell yn ein cymunedau; mae’r gwasanaeth ffonio a chasglu wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth, ac rydym yn gwybod bod sawl cwsmer yn colli'r cyfle i ymweld â'r llyfrgell a dewis eu llyfrau yno, ac rydw i wrth fy modd ein bod nawr yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn mewn modd diogel."

Bydd apwyntiadau i ddewis llyfrau yn cael eu cyfyngu i 45 munud.  

I wneud apwyntiad, ffoniwch 01492 576139 neu cwblhewch y ffurflen ar-lein www.conwy.gov.uk/llyfrgelloedd

Wedi ei bostio ar 04/09/2020

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy