Trosffordd Cyffordd Llandudno: Ailwampio'r Bont
Gwaith yn dechrau: 17 Ebrill 2023
Gwaith yn dod i ben: 20 Gorffennaf 2023
Beth sy’n digwydd?
Mae angen ailwampio trosffordd Cyffordd Llandudno, o gylchfan y Weekly News i dref Conwy, er mwyn newid y deunydd gwrth-ddŵr, uniadau symudiad a gwneud gwaith draenio.
Dyma Ail Gam y prosiect sylweddol hwn – cwblhawyd y cam cyntaf yn 2022 a bydd yr Ail Gam yn cwblhau’r gwaith.
Deallwn y bydd y gwaith hwn yn achosi amhariad ac anghyfleustra mawr, oherwydd mai’r bont yw’r brif ffordd i mewn i Gonwy. Y rheswm pam fo’r gwaith hwn mor bwysig yw oherwydd bod y ffordd yn un mor allweddol, ac mae angen cadw’r bont yn ddiogel ac ar agor am flynyddoedd i ddod.
Rydym yn anelu at gyflawni’r gwaith mor fuan ag sy’n bosibl, a bydd yn cynnwys gwaith dros benwythnosau a gwaith dros nos.
Lle mae cylchfan y Weekly News?
Cylchfan y Weekly News, a elwir yn gylchfan Lidl hefyd, yw’r gylchfan fawr ar yr A546, gyda ffyrdd ymadael i Gonwy, Deganwy, Cyffordd Llandudno a thua’r A55.
Sut bydd hyn yn effeithio ar draffig?
Caiff traffig dros y drosffordd ac o amgylch y gylchfan ei reoli gyda goleuadau traffig dros dro. Bydd un lôn o’r drosffordd ar gau i draffig yn ystod y gwaith.
Bydd mynediad ar gael o gylchfan y Weekly News i Gonwy, Deganwy a Chyffordd Llandudno. Bydd mynediad o gylchfan y Weekly News i gylchfan Tesco. Bydd cerbydau sy’n teithio o gylchfan Tesco tua Chyffordd Llandudno a Llandudno yn dilyn gwyriad drwy gylchfan Black Cat.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a beicwyr trwy’r safle o Gonwy at y grisiau ar ochr Cyffordd Llandudno, gerllaw Lidl.
Pam mae’r gwaith yn cael ei wneud yn y gwanwyn a’r haf?
Mae angen tywydd sych arnom i gwblhau’r gwaith, felly mae’n amhosibl ei wneud yn yr hydref a’r gaeaf. Rydym wedi osgoi’r prif wyliau haf trwy ddechrau’r gwaith ar ôl y Pasg a chynllunnir ei orffen cyn gwyliau’r haf.
A fydd y ffordd yn cael ei hagor ar gyfer hanner tymor a phenwythnos gŵyl y banc ym mis Mai?
Na fydd - nid yw natur y gwaith yn ein caniatáu i ailagor y bont yn llawn yn ystod yr amserlen. Bydd un lôn ar agor a bydd traffig yn parhau i gael ei reoli gan oleuadau traffig.
Beth yw’r trefniadau ar gyfer cludiant cyhoeddus?
Bydd Arriva a gweithredwyr bysiau eraill yn newid eu gwasanaethau i ganiatáu ar gyfer y gwyriad. Gallwch wirio eu hamserlenni yma: www.traveline.cymru
Ni fydd y gwaith yn effeithio ar wasanaethau trenau.
Beth am fusnesau lleol?
Bydd arwyddion “busnesau ar agor fel arfer” yn cael eu gosod i roi gwybod i gwsmeriaid bod modd iddynt gael mynediad at y busnesau.
Bydd coetsis yn gallu parhau i ddod i mewn i Gonwy.
Cwestiynau?
Os bydd arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.
Wedi ei bostio ar 16/03/2023