Disgyblion Llandudno yn cynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol Menter yr Ifanc y DU
Zestee
Zestee yn rownd derfynol Menter Ifanc Cymru yn Abertawe
Mae grŵp o ddisgyblion blwyddyn 12 yn Ysgol John Bright, Llandudno wedi ennill rowndiau terfynol Rhaglen Cwmni Menter yr Ifanc Cymru yn Abertawe, gan ennill y wobr Cwmni Gorau yn ogystal â’r wobr Arloesi. Bydd y tîm yn mynd draw i Gaerdydd ar gyfer rowndiau terfynol y DU ar 3 Mehefin.
Llwyddodd y saith disgybl sy’n gyfrifol am Zestee, menter arloesol sy’n gweithgynhyrchu tïau golff bioddiraddadwy wedi’u creu o wastraff croen tanjerîn, i guro pum ysgol arall ar draws gogledd Cymru er mwyn ennill y prif wobrau yn rowndiau terfynol rhanbarthol Cymru.
Dywedodd Tilly, Cyfarwyddwr Ariannol Zestee: “Rwy’n hynod falch o’r holl waith y mae’r tîm wedi’i wneud. Ni fyddem erioed wedi disgwyl cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Menter yr Ifanc y DU. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at fynd i Gaerdydd.”
Llwyddodd y tîm, sy’n cynnwys David, Marta, Tilly, James, Crystal, Austin, ac Eren, dan arweiniad Mrs Danielle Hicks a Mrs Lauren Barlow, i ennill rownd ranbarthol gogledd Cymru ym mis Mawrth cyn mynd ymlaen i’r cam cenedlaethol i gystadlu ar lefel Cymru gyfan. Llwyddodd y creadigrwydd, meddwl masnachol a’r dull amgylcheddol gyfeillgar sydd ynghlwm â’u syniad o drosi croen tanjerîn yn dïau golff cynaliadwy, eco-gyfeillfar, i greu argraff dda ar y beirniaid.
Mae’r rowndiau terfynol yng Nghaerdydd yn achlysur hanesyddol; dyma’r tro cyntaf i rowndiau cenedlaethol Menter yr Ifanc y DU gael eu cynnal yng Nghymru. Bydd Zestee yn cystadlu yn erbyn y timau menter yr ifanc gorau ledled y Deyrnas Unedig, a bydd yr enillydd yn mynd ymlaen i’r rowndiau terfynol Ewropeaidd yn Latfia.
Dywedodd Hywel Parry, Pennaeth Ysgol John Bright: “Mae Zestee wedi meddwl am syniad arloesol ac amgylcheddol gyfeillgar a’i ddatblygu’n gynnyrch y gellir ei farchnata. Fel ysgol, rydym yn falch iawn o’u gwaith tîm, creadigrwydd a’u dyfeisgarwch sydd wedi’u harwain i fod yn bencampwyr Cymru.”
“Mae’r disgyblion hyn yn enghraifft wych o’r ysgol hon ar ei gorau - cydweithio, arloesi a chyflawni y tu hwnt i’w huchelgeisiau mwyaf. Rydym yn hynod o falch o’u cyflawniadau”
Yn ystod siwrnai Zestee drwy Fenter yr Ifanc, mae’r tîm wedi rheoli pob agwedd o redeg cwmni go iawn. O ddatblygu a gweithgynhyrchu i farchnata, cyllidebu a chyflwyno eu syniadau o flaen beirniaid. Mae’r myfyrwyr wedi datblygu a chynnal presenoldeb ar Facebook, Instagram a’u gwefan, lle mae tïau Zestee ar gael i’w prynu.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg: “Hoffai pawb yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy longyfarch y disgyblion a’r staff sydd ynghlwm â hyn. Mae cyrraedd rowndiau terfynol gwobrau Menter yr Ifanc y DU yn gyflawniad enfawr, ac mae’r bobl ifanc hyn yn enghraifft wych o’r dalent sydd gennym ar draws ein hysgolion yng Nghonwy.”
Bydd y tîm yn mynd draw i Gaerdydd ar gyfer rowndiau terfynol y DU ar 3 Mehefin. Pob lwc bawb!
Wedi ei bostio ar 02/06/2026